2023 club of the year - Pembroke - Enillydd Clwb y Flwyddyn 2023 - Clwb Criced Penfro.

Cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2024

2024 Sport Pembrokeshire Awards Finalists announced

Rhannu:

Mae enwau’r unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2024 wedi’u cyhoeddi.

Daeth cyfanswm o 252 o enwebiadau i law ac, yn dilyn cyfarfod dethol, mae’r panel o feirniaid wedi enwi’r 39 unigolyn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. 

 

Dywedodd Matt Freeman, Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro: “Rwy am ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyflwyno enwebiadau.

“Bob blwyddyn mae’n mynd yn anoddach dewis y tri unigolyn sy’n dod i’r brig o blith yr holl enwebiadau. Unwaith eto, roedd safon yr enwebeion yn hynod o uchel.

“Mae nifer ac ansawdd yr enwebeion yn dangos cryfder y byd chwaraeon yma yn Sir Benfro.

Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i seremoni gyflwyno fawreddog yn Folly Farm a gynhelir dydd Gwener, 29 Tachwedd, lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.

Bydd y seremoni hefyd yn datgelu enillwyr dau gategori arall, sef Gwobr Llwyddiant Oes a Gwobr Llwyddiant Arbennig y cadeirydd. 

Trefnir y gwobrau gan Chwaraeon Sir Benfro, sef tîm datblygu chwaraeon Cyngor Sir Penfro. 

Noddir y gwobrau gan Chwaraeon Sir Benfro, Valero, Folly Farm a Pure West Radio.

Nod y gwobrau yw cydnabod y bobl hynny sydd wedi rhagori mewn chwaraeon dros y 12 mis diwethaf, neu sydd wedi rhoi o’u hamser i hyfforddi a threfnu chwaraeon ar lawr gwlad.  

Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2024 – Y Rownd Derfynol

(Yn nhrefn yr wyddor)

 Hyfforddwr y Flwyddyn

Francesca Morgan (Nofio)

Philippa Gale (Pêl-rwyd)

Tom Richards (Tennis)

Cyflawniad Chwaraeon Merched

Gracie Griffiths (Cerdded rasio)

Helen Carrington (Codi pwysau â phŵer)

Seren Thorne (Saethu)

Cyflawniad Chwaraeon Bechgyn

Jeremy Cross (Tennis)

Rhys Llewellyn (Athletau)

Sam Coleman (Rasio cychod pŵer)

Cyflawniad Chwaraeon Bechgyn (o dan 16 oed)

Carter Heywood (Pêl-droed)

Hugo Boyce (Beicio)

Ned Rees-Wigmore (Hoci)

Cyflawniad Chwaraeon Merched (o dan 16 oed)

Cerys Griffiths (Nofio)

Chloe John-Driscoll (Saethu)

Ffion Bowen (Pêl-droed)

Gwobr Chwaraeon Anabledd

Evelyn Thomas (Codi pwysau â phŵer)

Jules King (Crossfit)

Marc Evans (Criced)

Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (o dan 16 oed)

Finnley Walters (Bocsio)

Jac Johnson (Gymnasteg)

Lewis Crawford (Boccia)

 Arwr di-glod

John Laugharne (Rygbi)

Owen Shanklin (Pŵl)

Sue Christopher (Achub bywydau beistonna)

Cyflawniad Tîm y Flwyddyn

Alan Evans, Andrew Evans a Michael John (Bowlio mat byr)

Clwb Hoci Merched Abergwaun ac Wdig

Tîm bowlio Sir Benfro

Cyflawniad Tîm Iau y Flwyddyn (o dan 16 oed)

Tîm pêl-rwyd dan 12 oed Chaos Thunder

Tîm dan 16 oed Clwb Pêl-droed Hakin United

Tîm hwylio iau Clwb Hwylio Neyland

Gwirfoddolwr Iau y Flwyddyn

Anna May (Tennis a syrffio)

Caitlin Chapman (Pêl-rwyd)

George Richards (Criced)

Trefnydd Clwb

Nadine Tyrrell (Gymnasteg)

Nick Shelmerdine (Criced)

Paul Hudson (Bowlio mat byr)

Clwb y Flwyddyn

Pêl-droed menywod a merched Clwb Pêl-droed Camros

Clwb Gymnasteg Hwlffordd

Strength Academy Wales Cymru

Nodiadau i olygyddion

Capsiwn: Enillydd Clwb y Flwyddyn 2023 - Clwb Criced Penfro.