70 o glybiau Sir Benfro yn elwa ar gyllid Chwaraeon Cymru
70 Pembrokeshire clubs benefit from Sport Wales funding
Mae saith deg o glybiau yn Sir Benfro wedi llwyddo i gael grantiau gan Gronfa Cymru Actif yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Cafodd y clybiau gyfanswm o dros £407,800 o’r cynllun grantiau gan Chwaraeon Cymru yn 2023/24.
Cefnogodd y gronfa 25 o wahanol chwaraeon, yn amrywio o saethyddiaeth, pêl-fasged a chriced i hwylio, bowlio matiau byr a chodi pwysau a llawer mwy.
Mae Cronfa Cymru Actif yn agored i geisiadau gan glybiau a grwpiau cymunedol nid-er-elw i helpu i ddatblygu a chynnal eu gweithgareddau.
Mae’r grantiau’n amrywio o £300 hyd at uchafswm o £50,000.
Bydd y cynllun yn cefnogi cyrsiau addysgu hyfforddwyr, prynu offer hanfodol a phrosiectau mwy fel llifoleuadau a chychod ar gyfer clybiau hwylio.
Am gyngor a chefnogaeth gyda’ch cais, cysylltwch ag Alan Jones neu Lois Hilling yn adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Penfro, Chwaraeon Sir Benfro ar sport@pembrokeshire.gov.uk
Mae Cronfa Cymru Actif bob amser ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru
Nodiadau i olygyddion
Roedd clwb hwylio Solfach (Solva Sailing) ymhlith y rhai i gael grantiau.