Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu £249,813 i atyniad newydd sy’n adrodd hanes Harri Tudur o Benfro
A new attraction telling the story of Pembroke’s Henry Tudor is awarded £249,813 by The National Lottery Heritage Fund
Heddiw, cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Harri Tudur, eu bod wedi cael dyfarniad grant o £249,813 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y Ganolfan Harri Tudur newydd yng Nghei’r De, Penfro.
Bydd Canolfan Harri Tudur yn dod â stori Harri Tudur, na ŵyr llawer amdano, yn fyw – mab Penfro a aeth â’r Gymraeg i lys Lloegr cyn mynd yn ei flaen i ennill y wobr fwyaf – coron Cymru a Lloegr. Drwy wneud hynny, dechreuodd un o’r breninlinau mwyaf dylanwadol yn hanes Prydain, sef y Tuduriaid.
Bydd Canolfan Harri Tudur yn adrodd y stori ddiddorol hon, llinach Gymreig Harri a’i heffaith ar ein stori genedlaethol, diwylliant Cymru a’n treftadaeth Brydeinig ehangach.
Bydd yr arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi’r atyniad cyffrous newydd hwn, sydd i fod i agor yn ystod gwanwyn 2027. Bydd y dyfarniad hefyd yn ariannu swydd Cydlynydd Rhaglen Gymunedol am flwyddyn, a fydd yn cyflwyno calendr bywiog o ddigwyddiadau a gweithgareddau a rhaglen wirfoddoli yn y ganolfan newydd, ac adnoddau addysgol ar gyfer ysgolion.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o welliannau lleol ehangach y mae Cyngor Sir Penfro yn ymgymryd â hwy yn ardal Cei’r De, sydd hefyd yn cynnwys llyfrgell a chaffi cymunedol newydd, cyfleuster gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chyflogaeth â chymorth yn yr adeiladau cyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro:
“Diolch i’r unigolion sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, llwyddwyd i achub yr adeiladau rhestredig blaenllaw hyn wrth ymyl Castell godidog Penfro, gan roi bywyd newydd iddynt drwy archwilio hanes Harri Tudur a’i gysylltiad â thref Penfro. Bydd y ganolfan newydd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac mae’n rhan allweddol o’n rhaglen ehangach i adfywio canol tref Penfro.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol –
"Rydym yn falch o gael cefnogi Cyngor Sir Penfro ac Ymddiriedolaeth Harri Tudur i ddod â stori Harri Tudur yn fyw. Diolch i’r unigolion sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn nid yn unig yn dathlu treftadaeth gyfoethog a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru ond yn creu canolfan fywiog ar gyfer dysgu, gwirfoddoli ac ymgysylltu â’r gymuned yng nghanol Penfro.”