
Dathlu llwyddiant addysg oedolion ar ôl blwyddyn o waith caled
Adult learners celebrate success after year of hard work
Mae Sir Benfro yn Dysgu, tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor Sir, wedi cynnal ei seremoni wobrwyo flynyddol i longyfarch myfyrwyr addysg oedolion ar eu llwyddiant yn yr arholiadau a'u cynnydd ar eu teithiau dysgu eleni.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn garedig gan Goleg Sir Benfro, cyd-aelod o'r bartneriaeth dysgu oedolion, ddydd Mercher 9 Gorffennaf.
Yn ogystal â staff a dysgwyr, mynychwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Maureen Bowen, Cadeirydd y Cyngor Sir a Steve Davis, Prif Swyddog Addysg Ieuenctid a Chymunedol, yn ogystal â nifer o sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth â Sir Benfro yn Dysgu.
Roedd y rhain yn cynnwys Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Bluestone, y Brifysgol Agored, Coleg y Drindod. Coleg Sir Benfro, Gwaith yn yr Arfaeth a Chymorth i Gyflogaeth. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnig llwybrau dilyniant i'r dysgwyr sy'n dymuno cymryd y cam nesaf ar eu taith ddysgu.
Roedd swyddog heddlu lleol hefyd yn bresennol i gwrdd a sgwrsio ag aelodau o'r gymuned amrywiol.
Meistr y Seremonïau ar gyfer y bore oedd Tomos Hopkins, o dîm Dysgu Cymraeg i Oedolion Sir Benfro.
Vilni, Côr o Wcreiniaid, oedd yn darparu'r gerddoriaeth, ac fe wnaeth pawb fwynhau gwrando ar ganeuon o'u mamwlad.
Roedd y dysgwyr i gyd wedi mynychu dosbarthiadau achrededig mewn Sgiliau Digidol, Sgiliau Hanfodol, TGAU a Saesneg fel Siaradwr Iaith Arall. Cyflwynodd y Cynghorydd Bowen dystysgrifau i ddysgwyr o'r dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol ac ESOL.
Roedd y bore wedi'i neilltuo i ddathlu'r cynnydd ar eu taith dysgu gydol oes. Cyfrannodd llawer ohonynt at y digwyddiad trwy rannu eu heiliadau o ‘ysbrydoliaeth' tra yn y dosbarth.
Roedd yr ystod o gymwysterau a enillwyd yn cynnwys Unedau a Dyfarniadau Agored Cymru, Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 1 a lefel 2, BCS ICDL a TGAU CBAC.
Roedd Laura Phillips o Sbardun+ hefyd yn dathlu sut roedd dysgwyr ar y prosiect wedi cyflawni dros 400 o gymwysterau yn ystod eu cyfnod cyflawni a ariennir gan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y DU a oedd wedi galluogi nifer sylweddol o ddysgwyr i symud ymlaen i wirfoddoli, dysgu pellach a chyflogaeth.
Trwy ddysgu, mae gan bobl y gallu i fynd ar gymaint o wahanol lwybrau; felly roedd bod yng Ngholeg Sir Benfro yn addas iawn gan fod cymaint o lwybrau galwedigaethol yn gallu cael eu dilyn gan oedolion sydd eisiau symud ymlaen drwy Goleg Sir Benfro.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am ddosbarthiadau Sgiliau Hanfodol ac ESOL am ddim, ffoniwch Rhadffôn 0808 100 3302.
I wybod mwy am yr ystod eang o ddosbarthiadau eraill gan gynnwys TGAU, dosbarthiadau Iechyd a Llesiant, Ieithoedd a Diddordeb Cyffredinol, cysylltwch â'ch Canolfan Ddysgu Gymunedol leol, ewch i wefan Sir Benfro yn Dysgu: https://www.learningpembrokeshire.co.uk/?lang=cy neu gweler tudalen Facebook https://www.facebook.com/LearningPembrokeshire neu ffoniwch y Gwasanaethau Canolog ar 01437 770130.
I wybod mwy am gyfleoedd i ddysgu yng Ngholeg Sir Benfro, ffoniwch 0800 9 776 788 neu ewch i'r wefan: https://www.pembrokeshire.ac.uk/?lang=cy