Agor cyfleuster newydd yng nghanolfan ieuenctid Hwlffordd, diolch i sefydliad chwaraeon arwr pêl-droed
New facility opened at Haverfordwest youth centre thanks to football legend’s sport foundation
Mae 'Cwrt Cruyff' newydd sbon wedi agor ym Mhrosiect Ieuenctid a Chymuned y Garth, a adnabyddir yn lleol fel The Hive, gan y cyn-eicon pêl-droed a rygbi rhyngwladol, Jo Price.
Fe wnaeth Jo, yr arwr lleol, nid yn unig agor y cyfleuster newydd ar 14 Hydref, cafodd yr anrhydedd hefyd o roi ei henw i’r cwrt.
Adeiladwyd y cyfleuster newydd sbon hwn mewn partneriaeth â Sefydliad Cruyff Sir Benfro, Reech Sports and Play, Cyngor Sir Penfro, Chwaraeon Sir Benfro, Chwaraeon Cymru, cyfraniad o £10,000 gan Valero, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Gemau Stryd, gyda chymorth arian a godwyd gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.
Dywedodd Jo Price: "Mae'n anrhydedd mawr cael fy enwi’n llysgennad Sefydliad Cruyff - rwy'n teimlo mor falch o allu cefnogi pobl ifanc a chymunedau ledled Sir Benfro i gael mynediad at gyfleuster anhygoel sy'n eu galluogi i fynegi eu hunain, datblygu a thyfu drwy chwaraeon.
"Ar ôl chwarae chwaraeon ar bob lefel o chwech oed, galla’ i werthfawrogi sut y gall cyfleuster fel hwn effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl. Mae'n fraint wirioneddol cael bod yn rhan o brosiect mor ystyrlon a sefydliad sy'n hyrwyddo gwerthoedd mor wych.
"Diolch i Anji Tinley yn yr Hive sydd wedi croesawu'r prosiect hwn gyda breichiau agored ac sy'n parhau i gyflawni ar gyfer pobl ifanc a'r gymuned."
Roedd Johan Cruyff, oedd yn eicon pêl-droed a sefydlydd Sefydliad Cruyff, yn credu mewn grym diddiwedd chwaraeon a'i ddylanwad ar ddatblygiad plant a phobl ifanc. Am y rheswm hwn, mae Sefydliad Cruyff wedi ymrwymo i greu lle i blant ddatblygu eu hunain yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol trwy chwaraeon.
Mae Cwrt Cruyff Jo Price wedi'i leoli yn The Hive, sy'n trefnu gweithgareddau chwarae, gweithgareddau cymdeithasol a bwyd i'r plant a'r bobl ifanc o'r ystad dai leol. Mae gan y cwrt amlswyddogaethol gae pêl-droed, cylchoedd pêl-fasged, wal ddringo a rhwydi criced.
Dywedodd yr Aelod Lleol a Rheolwr Prosiect Ieuenctid a Chymuned y Garth (The Hive): "Mae Cwrt newydd Jo Price yn ychwanegiad gwych i bobl ifanc a'r gymuned gyfan ei fwynhau a diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddod â'r cyfleuster gwych hwn i The Hive.
"Mae'n gwbl addas bod gan y cwrt enw Jo arno gan ei bod yn fodel rôl rhyfeddol ac yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sgiliau a thalentau pobl ifanc yn cael eu meithrin a'u cefnogi."
Ychwanegodd Geraint Richards o Sefydliad Cruyff: "Rydym wrth ein bodd bod lle diogel newydd i chwarae chwaraeon wedi cael ei agor. Bydd y Cwrt Cruyff hwn yn dod â chyfleuster newydd gwych i'r ardal a bydd yn lle diogel i blant o'r ardal yn ogystal â disgyblion o'r ysgolion lleol ac ysgolion AAAA dyfu, datblygu a chael hwyl."
Mae agor y cyfleuster hwn yn rhan o gynlluniau Sefydliad Cruyff i ehangu presenoldeb y sefydliad yn y Deyrnas Unedig trwy ddyblu nifer Cyrtiau Cruyff o 22 i 40 erbyn diwedd eleni
Mae pob prosiect yn bosibl yn dilyn dyfarniad gan y Postcode Active Trust, sydd wedi gweld dros £3m yn cael ei godi gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl i gefnogi gwaith Sefydliad Cruyff yn y Deyrnas Unedig.