English icon English
Cloc gyda darnau arian a phlanhigion yn blaguro

Ail gyfle’n agor i wneud cais ar gyfer prosiectau yn Sir Benfro trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Second opportunity to bid for Pembrokeshire projects via the UK Shared Prosperity Fund opens

Mae Cyngor Sir Penfro wedi agor ail rownd sy’n gwahodd sefydliadau â diddordeb i wneud cais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Mae’r UKSPF ar gael yn ystod blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25 yn unig – ac ar gyfer prosiectau ar draws y wlad.

Mae’n rhaid i brosiectau gynnal gweithgarwch yn unol â Phrosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a chyd-fynd ag un o’r blaenoriaethau buddsoddi hyn:

  • Cymunedau a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau.

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r rhain ar gael yn y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol.

Wrth sôn am y £1.67m o leiaf sydd ar gael, dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Gyllid, y Cynghorydd Alec Cormack: “Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau o ansawdd da a fydd yn gallu darparu ystod eang o brosiectau er budd pobl, cymunedau a busnesau Sir Benfro.”

Mae’n rhaid i Ymgeiswyr wirio’n ofalus p’un a ddylent wneud cais i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin o dan y Gwahoddiad i Gynnig hwn, neu gynllun grant ar wahân o dan un o’r cynlluniau Angori sy’n cynnwys grantiau Busnes, Cymuned a Chreu Lle.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor.

Cyflwyno Cais am Gyllid:

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r fersiwn wedi’i diweddaru o Ffurflen Gais Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer Sir Benfro sydd wedi’i chynnwys yn y wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar-lein. Ni fydd cynigion a gyflwynir mewn unrhyw fformat arall yn cael eu derbyn.

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno i Gyngor Sir Penfro gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn: spf@pembrokeshire.gov.uk.

Mae’r rownd ymgeisio hon yn fyw bellach ac mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 11:59pm ddydd Sul, 15 Hydref 2023

Terfyn amser pendant yw hwn ac ni fydd ceisiadau sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu derbyn.

Os nad ydych yn siŵr beth yw’r ffordd orau o sicrhau’r cyllid UKSPF y mae arnoch ei angen i gyflwyno’ch prosiect, mae siart lif wedi cael ei chynhyrchu a fydd yn eich helpu i lywio’r llwybrau amrywiol trwy’r rhaglen.

Mae’r siart lif hon a’r holl wybodaeth arall, gan gynnwys sut y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu, ar gael ar wefan y Cyngor.

Hefyd, mae dolenni i dudalennau gwe Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

wedi ei ariannu

Ffyniant Bro