Staff maes awyr yn cael diolch am eu rôl allweddol wrth gefnogi’r gwasanaethau brys
Airport staff thanked for crucial role in supporting emergency services
Mae rôl allweddol Maes Awyr Hwlffordd a’i staff wrth gadw hofrenyddion y gwasanaethau brys yn hedfan ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos wedi cael ei chanmol gan dimau golau glas.
Mae Maes Awyr Hwlffordd yn cael ei weithredu gan Gyngor Sir Penfro ac mae ei dîm ymroddedig o staff yn gwneud mwy na’r disgwyl i ddarparu’r cymorth y mae ei angen ar y gwasanaethau brys i helpu i achub bywydau.
Mae staff hyfforddedig y Maes Awyr yn gallu darparu tanwydd tra bod rotorau’n rhedeg, sy’n caniatáu i’r hofrenyddion ddychwelyd i wasanaeth cyn gynted â phosibl.
Yn ddiweddar, cafodd Rheolwr y Maes Awyr, Philip Davies, lythyrau diolch gan Ambiwlans Awyr Cymru ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau EF am gynorthwyo y tu allan i oriau i gadw eu hofrenyddion yn yr awyr.
Roedd angen i Ambiwlans Awyr Cymru gael tanwydd tra oedd ar daith Gwasanaeth Meddygol Brys Hofrennydd yn ardal Aberteifi pan oedd yn hedfan mewn cymylau isel.
Ysgrifennodd cynrychiolydd Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae hedfan mewn tywydd o’r math hwn yn gofyn am gynllun neu ddau wrth gefn, ac yn aml mae digon o danwydd yn allweddol.
“Mae’r ffaith bod tanwydd ar gael yn rhwydd yn y maes awyr (gan gynnwys y tu allan i oriau) yn hanfodol, yn fy marn i, ac mae eich gallu i aildanwyddo tra bod rotorau’n rhedeg yn welliant amlwg.
“Cawsom danwydd mewn modd diogel ac effeithlon iawn a dylid canmol eich tîm am eu proffesiynoldeb.”
Dywedodd llythyr arall gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: “Hoffai capten yr hofrennydd, y criw a phawb ohonom yn y Ganolfan Cydlynu Achubiaethau Awyrenegol ddiolch i chi a phwysleisio pa mor bwysig yw’r Maes Awyr yn ddaearyddol er mwyn caniatáu i ni gynnal cyrchoedd Chwilio ac Achub ychwanegol yn yr ardal ac o’i hamgylch.
“Roedd aildanwyddo wedi caniatáu i’r hofrennydd aros lle’r oedd ei angen hyd at 45 munud yn fwy, ac er y cawsant eu galw’n ôl, ni fyddent wedi gallu mynd yn ôl i’r ganolfan heb dîm y maes awyr / Cyngor lleol a wnaeth fwy na’r disgwyl i aildanwyddo’r hofrennydd.
“Mae’r ffaith bod y staff wedi dychwelyd i’r maes awyr yn benodol i aildanwyddo’r hofrennydd hyd yn oed pan nad oeddent ar ddyletswydd, yn glod i’r timau sy’n gweithio yno.”
Dywedodd Philip: “Efallai na fydd rhai pobl yn gwybod ein bod yn darparu tanwydd i’r gwasanaethau brys, ond rydym yn falch iawn o wneud hynny a chwarae rhan bwysig wrth helpu hofrenyddion i wneud eu gwaith.
“Gallai aildanwyddo’n gyflym ac aros yn yr awyr am awr neu fwy ychwanegol wneud gwahaniaeth mawr mewn senarios meddygol neu chwilio ac achub.
“Mae gennym dîm ymroddedig iawn yma yn y Maes Awyr sy’n fwy na pharod i dderbyn yr alwad unrhyw bryd i aildanwyddo’r gwasanaethau brys pan fydd angen.
“Mae’n braf iawn gweld yr ymroddiad hwn yn cael ei gydnabod yn y negeseuon diolch hyn.”
Mae mwy o wybodaeth am Faes Awyr Hwlffordd, ar gael ar y wefan.