Pawb ar fwrdd yr ARC: Ystafell ddosbarth dyframaeth yn tynnu sylw at gyfleoedd i Sir Benfro
All aboard the ARC: Aquaculture classroom highlights Pembrokeshire opportunities
Mae myfyrwyr Sir Benfro wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiad trochi ac addysgol yn yr Ystafell Ddosbarth o Bell Dyframaeth (ARC) ar ei thaith gyntaf i Gymru.
Rhoddodd yr ymweliad cyffrous gyflwyniad i ddyframaeth i genedlaethau'r dyfodol a golwg ar y cyfleoedd i Sir Benfro.
Datblygwyd yr ARC yn Iwerddon gan Bord Iascaigh Mhara (BIM).
Mae'r adnodd addysgol gwych hwn wedi galluogi ysgolion ledled Iwerddon i ddysgu sut mae dyframaeth, amaethyddiaeth ac adnoddau naturiol yn rhyngweithio.
Dywedodd Donna Page, Swyddog Dyframaeth Cyngor Sir Penfro: "Amlygodd yr ystafell ddosbarth ryngweithiol fanteision dyframaeth wrth gyflenwi bwyd môr cynaliadwy a chreu cyflogaeth.
“Mae'n cynrychioli cyfle gwerthfawr i ddysgu gwersi a meithrin partneriaethau gyda'n cymdogion yn Iwerddon er mwyn archwilio'r hyn y gallai'r sector hwn ei wneud i Sir Benfro."
Roedd cyfleoedd hefyd i'r myfyrwyr ymweld ag arddangosfeydd amrywiol a chymryd rhan mewn sgwrs â busnesau lleol a phartneriaid yn y diwydiant wrth edrych ar gynhyrchion dyframaeth lleol, gan gynnwys amrywiaeth o gacennau wedi'u gwneud o wahanol rywogaethau o wymon.
Roeddent yn cynnwys cacennau betys a delysg a sleisys o fôr-wiail crych, a'r browni gwymon a bleidleisiwyd yr enillydd wrth y bwrdd blasu.
Yn ogystal â dangos llwybrau gyrfa posibl a chodi ymwybyddiaeth o'r sector, mae ymweliad yr ARC wedi galluogi trafodaethau ynghylch datblygu cadwyni cyflenwi newydd ar gyfer busnesau Sir Benfro a chyfleoedd gyrfa yn lleol.
Dywedodd cwmni o Sir Benfro, Câr-Y-Môr: "Am ymweliad anhygoel gan yr ARC.
“Cawsom gyfle i gefnogi'r tîm dyframaeth a bwyd o Gyngor Sir Penfro pan aethon nhw i Goleg Sir Benfro ac Ysgol Penrhyn Dewi gyda'r ARC i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
“Roedd mor gyffrous gweld yr ysgolion, colegau, cymunedau a busnesau lleol yn dod at ei gilydd i brofi'r ARC a phopeth sydd gan ddyframaeth i’w gynnig ar gyfer ein tir a'n moroedd.”
Cefnogwyd ymweliad yr ARC â Sir Benfro gan BIM a'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (UKSPF).
Am wybodaeth am Ddyframaeth yn Sir Benfro cysylltwch â Donna Page yn: donna.page@pembrokeshire.gov.uk