English icon English
Photograph of chicken / Ffotograff o gyw iâr

Cyhoeddi Parth Atal Ffliw Adar Ledled Cymru

All Wales Avian Influenza Prevention Zone declared

Mae Parth Atal Ffliw Adar wedi'i ddatgan ledled Cymru gyfan o hanner nos heno, ddydd Iau 30 Ionawr 2025.

Bydd y parth yn parhau ar waith nes bod gostyngiad yn y lefelau risg yn nodi nad oes ei angen mwyach. Bydd y gofynion o fewn y parth a mesurau eraill i leihau'r risg o drosglwyddo ffliw adar yn cael eu hadolygu'n barhaus.

Mae'r parth hwn yn cyflwyno mesurau bioddiogelwch llym ar gyfer pawb sy’n cadw adar. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n cadw adar anwes. Bydd y mesurau yn helpu i atal ffliw adar rhag lledaenu o adar gwyllt neu unrhyw ffynhonnell arall.

Nid yw'r Parth Atal Ffliw Adar yn cynnwys gofyniad i gadw adar dan do ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae hyn yn cael ei adolygu'n gyson.

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill, waeth beth yw maint yr haid na sut mae'r adar yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol nawr, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw'r mannau lle cedwir adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft, trwy roi rhwyd dros byllau a'r ardaloedd cyfagos a thrwy gael gwared ar ffynonellau o fwyd adar gwyllt
  • Bwydo a rhoi dŵr i heidiau mewn ardaloedd caeedig i beidio ag annog adar gwyllt
  • Lleihau symudiad pobl i mewn ac allan o fannau cadw adar
  • Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dip traed cyn mynd i mewn i ardaloedd dofednod, a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus
  • Lleihau unrhyw halogiad sy’n bresennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit a ffensio ardaloedd gwlyb neu gorsiog
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill
  • Ni ddylid symud adar hela gwyllt, sydd wedi eu dal yn ystod y tymor agored, am o leiaf 21 diwrnod, yn amodol ar amodau yn y datganiad.
  • Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw yn unol â'r amodau yn y datganiad. Cwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol o fewn 7 diwrnod.

I helpu i gadw adar yn rhydd rhag clefydau, mae Llywodraeth Cymru wedi creu dwy restr wirio hunanasesu bioddiogelwch ar gyfer pobl sy’n cadw dofednod, boed hynny’n nifer fach neu ar raddfa fasnachol.

Mesurau Bioddiogelwch a Thai Cymru - Rhagfyr 2022 Rhestr Wirio Hunan-Asesu Gorfodol

Os oes angen cyngor neu arweiniad pellach ar geidwaid dofednod yn Sir Benfro, cysylltwch â'r tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid drwy'r blwch post - awelfare@pembrokeshire.gov.uk neu ganolfan gyswllt CSP, 01437 764551 / enquiries@pembrokeshire.gov.uk