English icon English
y tu allan i'r amgueddfa dros dro

Amgueddfa Dros Dro yn Lansio yn Hwlffordd

Pop-Up Museum launching in Haverfordwest

Mae Amgueddfa Tref Hwlffordd yn llawn cyffro i gyhoeddi dyddiad agor amgueddfa a man arddangos dros dro newydd, wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU fel rhan o'r agenda Ffyniant Bro.

Bydd yr amgueddfa dros dro yn agor ei drysau ar 25 Mawrth yng Nghanolfan Siopa Glan-yr-afon, Hwlffordd, mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Pasg!

Caeodd yr amgueddfa dros dro yn 2023 i baratoi ar gyfer gwaith adeiladu yng Nghastell Hwlffordd, er mwyn gwneud lle ar gyfer creu atyniad treftadaeth blaenllaw newydd ar y safle.

Er bod yr amgueddfa yn aros yn eiddgar am ei chartref newydd, mae'r curadur Simon Hancock a gwirfoddolwyr yr amgueddfa wrth eu boddau gyda'r amgueddfa dros dro newydd, sydd wedi'i lleoli yn hen siop GAME yng Nghanolfan Siopa Glan-yr-afon ar lan ddwyreiniol Afon Cleddau. Mae'n debygol y bydd yr amgueddfa yn aros yno tan 2027 pan fydd yn symud yn ôl i gartref wedi'i adnewyddu yng Nghastell Hwlffordd fel rhan o'r atyniad newydd.

Bydd yr amgueddfa dros dro ar agor 6 diwrnod yr wythnos, dydd Llun i ddydd Sadwrn, 10am-4pm ac ar agor drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys gwyliau banc (ac eithrio'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd).

Mae gan yr amgueddfa gyfoeth o drysorau cudd, sy’n datgelu straeon diddorol ac anghyfarwydd o orffennol Hwlffordd. Tref farchnad hanesyddol a chanolfan weinyddol Sir Benfro yw Hwlffordd, gydag asedau treftadaeth fel y castell a llu o straeon sy'n datgelu ei gwreiddiau Normanaidd, ei hanes canoloesol ac yn fwy diweddar ei rôl fel porthladd masnachu sylfaenol, a oedd unwaith yn cystadlu â Bryste. Mae nifer o bobl nodedig a oedd naill ai’n dod o Hwlffordd neu wedi byw yno, er enghraifft Gwen John (1876-1939). Gallwch ddarganfod mwy am eu straeon drwy fynd i siarad ag un o wirfoddolwyr gwybodus yr amgueddfa.

Pan fyddwch yn ymweld, gallwch ddisgwyl darganfod mwy am archaeoleg ddiddorol Hwlffordd, gan gynnwys darganfyddiad archeolegol cyffrous diweddar Mynachlog Ddominicaidd St Saviours ar hen safle siop Ocky White.  Mae yno amrywiaeth ddiddorol o wrthrychau a wnaed yn Hwlffordd yn ystod Oes Fictoria a blwch o drysorau lleol sy'n dyddio o'r oesoedd canol. 

Bydd y man arddangosfa yn newid yn rheolaidd ac yn cynnwys arddangosfeydd digidol a rhyngweithiol yn ogystal ag arddangosfeydd mwy traddodiadol ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys Porthladd Hwlffordd, y Castell a Gwaith Corddi Menyn Llewelyn. Bydd amrywiaeth o baentiadau hefyd gan gynnwys rhai gan yr artist David Lindley ac arddangosfa ar bobl enwog Hwlffordd – yn cwmpasu'r amrywiaeth eang gan gynnwys artistiaid, cerddorion, fforwyr ac athletwyr. 

Ychwanegiad cyffrous yw siop newydd yr amgueddfa sy'n gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion ar thema Hwlffordd gan gynnwys bisgedi, siocledi, cyffug, bagiau defnydd, poteli dŵr a lolipops.

Dywedodd Tim Evans, cadeirydd ymddiriedolwyr Amgueddfa Tref Hwlffordd: "Rydyn ni’n llawn cyffro am y bennod newydd hon ym mywyd yr amgueddfa. Mae'n gyfle gwych i ni, symud i leoliad lle byddwn yn gweld llawer mwy o ymwelwyr. Rydym wir yn gobeithio ymgysylltu a chynnwys cenhedlaeth newydd gyfan yn hanes ein tref arbennig.”

Mae'r amgueddfa yn dal i chwilio am wirfoddolwyr newydd ac eisiau croesawu ystod amrywiol o bobl i gymryd rhan - does dim angen i chi fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol am hanes y dref i fod yn wirfoddolwr. Darperir hyfforddiant ac mae amrywiaeth eang o rolau ar gael.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy neu gymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar yr amgueddfa dros dro, e-bostiwch guradur yr amgueddfa Simon Hancock ar simon615@btinternet.com

Sefydlwyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy'n cefnogi'r prosiect hwn, i ddarparu cyllid i gymunedau ledled y DU er mwyn rhoi bywyd newydd a thyfu'r economi mewn rhanbarthau o'r wlad lle mae angen cymorth ychwanegol. Ar hyn o bryd mae Hwlffordd yn ganolbwynt i nifer o brosiectau a gefnogir gan y cyllid hwn, gyda'r nod o hybu adfywiad economaidd y dref.

Funded by UK Govt logo