Angen barn y gymuned ynghylch system unffordd arfaethedig Prendergast
Community views wanted on possible Prendergast one-way system
Mae cynigion i ddynodi rhan o'r B4329 ym Mhrendergast, Hwlffordd yn system unffordd wedi cael eu datblygu yn dilyn pryderon gan drigolion am ddiogelwch ar y ffyrdd, parcio a thagfeydd.
Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro bellach yn awyddus i glywed gan aelodau'r cyhoedd, cymudwyr a busnesau lleol ynghylch y cynigion.
Nod y cynlluniau yw rheoli llif y traffig rhwng cyffordd Heol Aberteifi a Chylchfan Sgwâr Pen-y-bont yn effeithiol a gwella diogelwch plant ysgol a'r gymuned leol, yn ogystal â gwella problemau parcio.
Bydd y system unffordd arfaethedig yn cychwyn wrth y gylchfan ac yn rhedeg am tua 535 metr i fyny i fân gylchfan newydd.
Mae agweddau eraill ar y cynigion yn cynnwys Llwybr Defnydd a Rennir 500 metr, ailddosbarthu cilfannau parcio a mesurau rheoli traffig ar hyd y llwybr a gwneud addasiadau ar Heol Aberteifi a Heol Hall Park.
Cynhelir sesiynau galw heibio yn Archifdy Sir Benfro yfory (10 Medi), gyda'r rhai sydd â diddordeb yn cael eu hannog i ddod yn ystod y cyfnodau canlynol,10am - 12pm; 1pm - 4pm; 6.30pm - 8pm.
Bydd arolwg ar-lein hefyd yn mynd yn fyw ar 10 Medi a bydd ar agor i dderbyn adborth tan 1 Hydref.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Mae barn y gymuned a defnyddwyr rheolaidd y ffordd hon yn hanfodol i ddatblygu'r cynigion hyn sy'n ceisio lleddfu pryderon y mae trigolion lleol wedi bod yn eu codi am ddiogelwch ar y ffyrdd, parcio ar y stryd a thagfeydd yn yr ardal.
"Ni fydd dewis a ffefrir yn cael ei gadarnhau nes y cawn yr adborth gan y gymuned leol felly byddwn yn annog pawb i sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud naill ai'n bersonol yn y sesiynau galw heibio neu ar-lein."