English icon English
cleddau bridge130319

Annog Cynghorwyr a Chlercod i ddweud eu dweud ar heriau lleol

Councillors and Clerks urged to have their say on local challenges

Yn galw ar holl Gynghorwyr a Chlercod Dinas, Tref a Chymuned – Mae angen eich barn arnom am yr heriau sy'n wynebu eich trigolion a'ch cymunedau.

Mae Holiadur Cynghorwyr a Chlercod Dinas, Tref a Chymuned 2023 Cyngor Sir Penfro bellach yn fyw ac anogir pawb i gymryd rhan.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Prior, yr Aelod Cabinet dros Wella a Chymunedau: "Nod yr arolwg yw rhoi cipolwg ar sut beth yw bod yn aelod o Gyngor Dinas, Tref neu Gymunedol, neu’n eu gwasanaethu, yn 2023, gan amlygu cyfleoedd a heriau ar gyfer y dyfodol y gallwn weithio arnynt gyda'n gilydd.

"Y bwriad yw i chi ei gwblhau fel unigolion, nid ar ran eich Cyngor, a gorau po fwyaf o ymatebion a gawn, felly anogwch bawb yn eich Cyngor i gymryd rhan.  

"Bydd adroddiad yn cael ei lunio ar sail y canlyniadau na fydd yn priodoli sylwadau i unrhyw unigolion, felly byddwch yn agored ac onest yn eich ymatebion.

“Gan fy mod yn Gynghorydd Cymuned fy hun, rwy’n gwybod bod gennym lawer iawn o gyfrifoldeb a’n bod yn gallu gwneud llawer iawn dros ein cymunedau lleol felly mae’n bwysig iawn eich bod yn treulio ychydig o amser i ddweud eich barn wrthym.”

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda'r holl Gynghorwyr drwy Glercod, a bydd y canfyddiadau'n cael eu trafod mewn cyfarfodydd Gweithio'n Well Gyda'n Gilydd yn y dyfodol.

Dylai’r holiadur gymryd tua 15 munud yn unig i'w lenwi. Y dyddiad cau yw 31 Mawrth, ac mae ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro, lle gallwch lawrlwytho copïau papur neu gall eich Clerc ei ddarparu.