English icon English
tu mewn i siambr y cyngor

Annog y cyhoedd i ymwneud â phroses Craffu'r Cyngor

Public encouraged to get involved with Council Scrutiny process

Oes gennych chi gwestiwn neu awgrym rydych chi’n meddwl sydd angen edrych yn fanylach arno? Mae'r system trosolwg a chraffu yn gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Cyngor.

Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau Cyngor Sir Penfro - y Cabinet - yn cael eu dwyn i gyfrif gan bum pwyllgor trosolwg a chraffu sy'n cynnwys cynghorwyr trawsbleidiol ac mewn rhai achosion aelodau o'r cyhoedd.

Mae pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, Gwasanaethau, Polisi a Chyn-benderfyniad, Gofal Cymdeithasol ac Ysgolion, pob un â rolau a chylch gwaith unigol.

Mae'r pwyllgorau hyn - sy'n cyfarfod drwy gydol y flwyddyn y Cyngor - yn cynhyrchu eu rhaglen waith flaengar eu hunain sy'n adolygu, ymchwilio a herio penderfyniadau, yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu polisi a monitro perfformiad.

Ond nid dim ond aelodau a swyddogion sydd yn cael eu dweud eu dweud ar yr hyn sydd angen edrych yn fanylach arno, gallwch chi hefyd!

Nid yw cwestiynau ac awgrymiadau i'w trafod – yn Gymraeg neu Saesneg - ar faterion sy'n ymwneud â'r Cyngor ac effeithiau ar y gymuned ehangach yn cael eu croesawu’n unig, maen nhw hefyd yn cael eu hannog, fe allech chi hyd yn oed wneud cais i siarad mewn cyfarfod pe byddech chi’n dymuno hynny.

Mae diweddariad ar yr hyn sydd i gael ei ystyried yn cael ei gyhoeddi ar-lein tua mis cyn i gyfarfod gael ei gynnal ac mae agendâu manylach yn cael eu cyhoeddi'r wythnos flaenorol, gyda chwestiynau'n cael eu derbyn hyd at y diwrnod cynt (er bod mwy o rybudd yn cael ei werthfawrogi).

Y cyfarfod Craffu nesaf yw Gofal Cymdeithasol ar Fawrth 16 gydag eitemau posibl i'w trafod gan gynnwys gweithio gyda'r trydydd sector a'r Strategaeth ar gyfer Cadw Teuluoedd Gyda'i Gilydd, ynghyd â Diogelu, eitem reolaidd ar agenda'r pwyllgor.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr pa bwyllgor trosolwg a chraffu sydd fwyaf addas ar gyfer ateb ymholiad, bydd y tîm Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfeirio at y cadeirydd cywir ac mae ystod eang o wybodaeth ar y tudalennau gwe Craffu os ydych chi am ddarganfod mwy.

Dywedodd yr Aelod Hyrwyddwr ac aelod Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: "Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n cael ein heffeithio gan wasanaethau'r Cyngor a'r ddarpariaeth mewn rhyw ffordd neu'i gilydd felly mae'n bwysig bod pawb yn cael cyfle i gael eu clywed.

"Mae cymryd rhan gyda'r broses Trosolwg a Chraffu yn ffordd bwysig i drigolion fod yn rhan o waith y Cyngor ac os oes pwnc rydych chi’n teimlo'n gryf yn ei gylch neu mae gennych chi ddiddordeb arbennig ynddo rydym ni bob amser yn awyddus i glywed gennych chi."

Mae ffurflenni ar gael i godi unrhyw faterion i sylw pwyllgor, ynghyd â phrotocolau ar gyfer siarad cyhoeddus, neu gallwch gysylltu â'r tîm drwy Democraticservices@pembrokeshire.gov.uk neu drwy lythyr i Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA611TP.  

Mae holl gyfarfodydd y Cyngor yn cael eu gwe-ddarlledu a gellir eu gweld yn fyw neu yn yr archif, gyda phresenoldeb o bell hefyd yn opsiwn.