Apêl am lety mwy o faint i aduno teuluoedd o Wcráin sy’n ffoi rhag rhyfel
Appeal for larger accommodation to reunite Ukrainian families fleeing war
Blwyddyn ers i Rwsia ymosod ar Wcráin, nid yw cannoedd o ffoaduriaid fymryn yn agosach at ddychwelyd adref, ond gall pobl Sir Benfro barhau i helpu.
Mae angen taer am lety mwy o faint gan letywyr ar gyfer teuluoedd a menywod a phlant ar draws ein Sir, lle mae trigolion eisoes wedi gwneud ymdrech anhygoel i helpu’r bobl sy’n ffoi rhag y rhyfel.
Mae tai yn bwnc anodd yn Sir Benfro, yn unol â rhannau eraill o’r wlad, ond mae defnyddio llety gan letywyr yn golygu nad oes pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar y farchnad rhentu breifat.
Yng nghanolfannau croeso’r sir, lle y caiff pobl a noddir gan Lywodraeth Cymru eu cartrefu i ddechrau, mae llawer o deuluoedd – menywod a’u plant yn bennaf – sydd angen lle gyda lletywr.
Hefyd, mae unigolion sydd wedi’u gwahanu rhag aelodau eu teulu, sydd wedi’u cartrefu mewn ardaloedd eraill, sy’n daer am gael eu haduno.
Mae’r Tîm Adsefydlu Wcreiniaid yn annog unrhyw un sydd ag eiddo mwy o faint, ail dŷ, anecs, carafán ar dir, neu hyd yn oed ystafell fawr y gallai mam a phlentyn neu deulu bach ei rhannu, i ystyried bod yn lletywr.
Ar hyn o bryd, mae dros 50 o letywyr gweithgar â theuluoedd o Wcráin yn byw gyda nhw yn Sir Benfro ac mae hawl ganddynt gael taliad diolch o hyd at £500 y mis, tra bydd eu trefniant yn para.
Dywedodd un lletywr, Jemma*, fod “helpu Wcreiniaid yn y wlad hon yn gwneud i mi deimlo fy mod i’n helpu Wcreiniaid yn eu gwlad eu hunain.”
Ac wrth i’r fam a’r plentyn y bu’n eu lletya gyda’i phartner, Mark*, baratoi i symud i lety newydd er mwyn aduno ag aelod arall o’u teulu, mae Jemma* yn ychwanegu: “Er yr anawsterau iaith, roedd hi’n syndod i mi ei bod hi’n bosibl uniaethu â’n gwesteion o Wcráin, a chael cyfeillgarwch gwirioneddol â nhw.”
Trwy gydol eu harhosiad, mae tîm adsefydlu Cyngor Sir Penfro wrth law i gefnogi lletywyr ac Wcreiniaid fel ei gilydd, ynghyd â chydweithwyr yn y sector gwirfoddol.
Mae’r teuluoedd o Wcráin sydd eisoes yma yn ddiolchgar tu hwnt i’w lletywyr am eu caredigrwydd. Allech chi agor eich cartref neu’ch eiddo i deulu o Wcráin sy’n ffoi rhag y rhyfel?
Gallwch gysylltu â’r Tîm Adsefydlu ar: 01437 776301 neu ukrainecommunityresponse@pembrokeshire.gov.uk
*Newidiwyd yr enwau i warchod manylion adnabod