Radiator - Rhaedr

Ceisiadau ar agor ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi i Aelwydydd nad ydynt ar y Grid

Applications open for Off Grid Heating Fuel Support Scheme

Rhannu:

Bydd aelwydydd ledled Sir Benfro sy'n dibynnu ar olew gwresogi neu LPG yn derbyn cymorth hanfodol drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi i Aelwydydd nad ydynt ar y Grid.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun, ac awdurdodau lleol yn ei gyflwyno, i gynnig taliad untro o £200 i helpu aelwydydd incwm isel i reoli costau ynni cynyddol.

Pwy sy'n gymwys?
I fod yn gymwys, rhaid i aelwydydd fodloni'r ddau amod canlynol:

  • bod yn derbyn Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor neu'n gwneud cais llwyddiannus amdano rhwng 1 Ebrill a 31 Gorffennaf 2026.
  • bod yn defnyddio olew gwresogi neu LPG fel eu prif ffynhonnell gwresogi, gyda phrawf, fel bil, wedi'i ddyddio o fewn y 12 mis diwethaf.

Rhaid i ymgeiswyr fyw yn yr eiddo fel eu prif gartref, a dim ond un taliad fesul aelwyd a ganiateir.

Sut i wneud cais a beth sy'n digwydd nesaf
Mae Cyngor Sir Penfro wedi nodi aelwydydd sy'n debygol o fod yn gymwys a bydd yn anfon llythyrau at yr aelwydydd hynny'n uniongyrchol, yn eu gwahodd i wneud cais.

Gofynnir i ymgeiswyr:

  • gadarnhau eu math o danwydd gwresogi
  • darparu tystiolaeth (e.e. bil olew/LPG)
  • cyflwyno manylion banc ar gyfer y taliad.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Medi 2026.

Bydd hawliadau wedi'u gwirio yn cael eu talu'n uniongyrchol i gyfrifon banc, a thaliadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl a dim hwyrach na 31 Hydref 2026.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi i Aelwydydd nad ydynt ar y Grid ar wefan bwrpasol y Cyngor: https://www.sir-benfro.gov.uk/cymorth-gyda-olew-gwresogi-a-nwy-petroliwm-hylif