
Archif unigryw o Hong Kong hanesydd o Sir Benfro wedi'i chydnabod gan y Brenin
Pembrokeshire historian’s unique archive of Hong Kong recognised by the King
Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed yn Neuadd y Sir yr wythnos hon mewn seremoni arbennig yn Siambr y Cyngor.
Roedd Miss Sara Edwards yn cyflwyno'r anrhydedd i David Bellis, a enwyd yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i Gadwraeth Treftadaeth yn Hong Kong.
Mr Bellis yw sylfaenydd y wefan Gwulo.com sydd wedi datblygu yn gronfa ddata ar-lein, sy'n archifo ffotograffau, gwybodaeth, mapiau ac atgofion am Hong Kong.
Dyma'r archif ddigidol fwyaf o hanes Hong Kong gyda mwy na 50,000 o dudalennau hanesyddol a 30,000 o ddelweddau.
Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Maureen Bowen, oedd yn cyflwyno'r digwyddiad ar 29 Mai, a thynnodd sylw at y casgliad diddorol sydd i'w weld yn Gwulo.com.
Dywedodd yr Arglwydd Raglaw: "Ar ran Ei Fawrhydi'r Brenin, roedd yn anrhydedd ac yn fraint enfawr cyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Mr David Bellis."
Ymunodd ei deulu â Mr Bellis ar gyfer yr achlysur arbennig.
Yn cynorthwyo'r Arglwydd Raglaw ar gyfer y seremoni roedd Cadetiaid Arglwydd Raglaw Sir Benfro Mariana Lemon, Archie Measey a Finley Fells.
Hefyd yn bresennol i ddathlu anrhydedd Mr Bellis roedd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey ac Uchel Siryf Dyfed, Ann Jones.