English icon English
Gynnyrch Sir Benfro

Arddangos cynnyrch ardderchog Sir Benfro

Showcasing the fantastic produce of Pembrokeshire

Yn ddiweddarach y mis hwn, cynhelir arddangosfa o’r cynnyrch gorau sydd gan Sir Benfro i’w gynnig.

Bydd y digwyddiad, ar y cyd â Croeso Sir Benfro, yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro, SA72 6UN, rhwng 10am a 3pm ddydd Mercher 22 Mawrth.

Anogir cogyddion ac aelodau’r diwydiannau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth i gymryd rhan.

Yr arddangosfa hon yw’r digwyddiad cyntaf i’w gynnal ers tro, a bydd yn gyfle i gwrdd â’r cynhyrchwyr yn uniongyrchol, a gwneud cysylltiadau newydd, a blasu amrywiaeth ac ansawdd y nwyddau a gynhyrchir ledled y Sir.

Yn ogystal â darganfod cynhyrchion newydd a nwyddau ychwanegol, bydd mynychwyr yn gallu dysgu mwy am Gynllun Nod Cynnyrch Sir Benfro.

Mae’r Nod Cynnyrch yn logo hawdd ei adnabod, sy’n dangos bod y cynhyrchion wedi’u gwneud yn Sir Benfro.

Os caiff ei arddangos mewn sefydliad lletygarwch, mae’n dangos bod cynnyrch lleol yn cael ei ddefnyddio yn y fwydlen. Mae siopau sy’n arddangos y Nod Cynnyrch yn gwerthu cynnyrch lleol yn eu siop.

Os oes unrhyw gynhyrchwyr lleol sy’n dymuno mynychu, ond nad ydynt ar hyn o bryd yn aelodau Nod Cynnyrch Sir Benfro, ewch ati i wneud cais am ddim ar y wefan.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Joanne Welch, Swyddog Datblygu Bwyd, joanne.welch@pembrokeshire.gov.uk