Armed forces day flag 2026 - Dydd Baneri'r Lluoedd Arfog 2026

Codi baner y Lluoedd Arfog ar Neuadd y Sir

Armed Forces flag flies over County Hall

Rhannu:

Mae baner y Lluoedd Arfog yn cyhwfan yn falch ar Neuadd y Sir yr wythnos hon cyn Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn, 27 Mehefin.

Roedd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, a Hyrwyddwr  Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Simon Hancock ymhlith y rhai a oedd yn seremoni codi'r faner fore Llun.

Hefyd yn bresennol roedd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Delme Harries, y Prif Weithredwr, Will Bramble a Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol, Hayley Edwards.

Dywedodd y Cynghorydd Hancock: "Mae bob amser yn foment falch iawn i weld Baner y Lluoedd Arfog yn hedfan dros Neuadd y Sir.

“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad dwfn i'r dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu, yn ogystal â'r teuluoedd a'r cymunedau sy'n eu cefnogi.

 “Mae gan ein sir hanes cyfoethog o gysylltiad â'r Lluoedd Arfog, ac rydym yn falch o gynnal a chryfhau'r cysylltiad hwnnw.

“Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn Sir Benfro yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maen nhw’n ei haeddu ac rydym yn falch o fod yn ddeiliad Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn."