Cllr Tessa Hodgson 2026

Arweinydd y Cyngor yn diolch i'r staff am wasanaeth rhagorol yn ystod y tywydd poeth

Council Leader thanks staff for outstanding service during heatwave

Rhannu:

Mae'r Cynghorydd Tessa Hodgson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, wedi cyhoeddi neges o ddiolch i staff ar draws y sefydliad am eu hymrwymiad yn ystod y tywydd poeth diweddar.

Dywedodd: "Ar ran y Cyngor, rwyf am ddiolch yn ddiffuant i'n holl staff am eu hymroddiad a'r gwydnwch eithriadol a ddangoswyd ganddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn o wres eithafol.

“Mae ein timau wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau, gan roi'r cyhoedd yn gyntaf, ac wedi dangos proffesiynoldeb, dibynadwyedd a gofal gwirioneddol wrth weithio dan yr amodau heriol hyn.

“Rwy'n hynod falch o'r ffordd y mae cydweithwyr wedi camu i’r adwy i sicrhau bod preswylwyr yn parhau i dderbyn y gefnogaeth maen nhw'n dibynnu arni.”

Roedd yr Arweinydd yn cydnabod y pwysau ychwanegol a roddwyd ar staff yn ystod y cyfnod o dywydd poeth, yn enwedig mewn rolau sydd eisoes yn heriol.

“Rydym yn cydnabod bod y tymheredd uchel wedi rhoi straen sylweddol ar lawer o'n gwasanaethau, ac rydym yn gwerthfawrogi'r ffordd y mae staff wedi addasu a chefnogi ei gilydd.

Hefyd, fe wnaeth y Cynghorydd Hodgson dynnu sylw at bwysigrwydd lles staff, gan annog cydweithwyr i gymryd y rhagofalon angenrheidiol yn y tywydd poeth.

Ychwanegodd: "Diolch unwaith eto am bopeth rydych chi'n ei wneud i'n cymunedau. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymdrechion yn fawr."