Arweinydd y Cyngor yn ymweld â Fforwm Arfordir Sir Benfro
Council Leader visits Pembrokeshire Coastal Forum
Partneriaeth i gefnogi dyfodol cynaliadwy i arfordir Sir Benfro oedd un o’r dulliau a ystyriwyd yn ystod ymweliad Arweinydd y Cyngor â Fforwm Arfordir Sir Benfro yr wythnos diwethaf.
Cyfarfu’r Cynghorydd Tessa Hodgson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, â thîm Fforwm Arfordir Sir Benfro ddydd Mercher, i ddysgu mwy am eu gwaith yn amddiffyn amgylchedd arfordirol Sir Benfro ac i archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth agosach.
Mae Fforwm Arfordir Sir Benfro yn gwmni buddiant cymunedol sy'n gweithio i gefnogi arfordir a chefnfor cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'n dod â chymunedau, busnesau, cyrff cyhoeddus, ymchwilwyr a sefydliadau eraill ynghyd i ddatblygu a chyflwyno ymatebion ymarferol i heriau a chyfleoedd arfordirol.
Dywedodd y Cynghorydd Hodgson: “Roedd yn wych clywed am yr ystod eang o waith sy’n cael ei wneud gan Fforwm Arfordir Sir Benfro a’r cyfraniad cadarnhaol y mae’n ei wneud i’n sir.
“O ddatblygu cyfleoedd mewn ynni’r môr a chefnogi gyrfaoedd ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol, i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gwella ansawdd dŵr, mae cyfleoedd clir i’r Cyngor a’r Fforwm gydweithio er budd Sir Benfro.”
Ychwanegodd: “Mae cydweithio â sefydliadau fel hyn yn rhoi cyfle inni rannu arbenigedd, datblygu atebion ymarferol a sicrhau bod gwelliannau amgylcheddol yn mynd law yn llaw â chyfleoedd i’n cymunedau a’n busnesau lleol.”
Ymhlith y pynciau allweddol a drafodwyd yn ystod yr ymweliad roedd ynni adnewyddadwy morol a'r potensial i greu swyddi lleol a chyfleoedd i feithrin sgiliau, addasu i newid yn yr hinsawdd, addysg a hyfforddiant, hamdden awyr agored cynaliadwy, a gwella ansawdd dŵr trwy reoli tir yn well.
Dywedodd Jetske Germing, Cyfarwyddwr Rheoli PCF: “Croesawom y cyfle i drafod ein gwaith gyda’r Cynghorydd Hodgson.
“Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein harfordir. Drwy ddod â gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau lleol ynghyd, gallwn ddatblygu atebion sy'n amddiffyn amgylchedd naturiol Sir Benfro wrth gefnogi cymunedau gwydn, busnesau cynaliadwy a chyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol.”