Atgoffa am ddiogelwch wedi cwymp creigiau
Recent rockfall prompts safety reminder
Cynghorir trigolion ac ymwelwyr â Sir Benfro i fod yn ofalus wrth gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir a'r traethau yn dilyn nifer o dirlithriadau diweddar mewn lleoliadau arfordirol.
Gallai gaeaf gwlyb ar ôl haf sych y llynedd achosi rhagor o dirlithriadau a chlogwyni’n cwympo dros yr wythnosau nesaf.
Atgoffir pobl sy'n ymweld â'r arfordir i gadw'n glir o ymylon clogwyni ac fe'u cynghorir i beidio ag eistedd o dan glogwyni pan fyddant yn ymweld â thraethau.
Mae clogwyni ar hyd arfordir Sir Benfro wedi'u ffurfio'n naturiol ac yn newid yn gyson o ganlyniad i erydiad arfordirol ac effaith y tywydd.
Gall cyfnodau hir o law neu law trwm dreiddio i mewn i graciau a gwanhau haenau o greigiau, gan leihau sefydlogrwydd a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd creigiau yn cwympo ac y bydd tirlithriadau.
Mae'r prosesau hyn yn rhan arferol o sut mae'r arfordir yn esblygu, ond maen nhw'n golygu y gall wynebau clogwyni ddisgyn yn sydyn a heb rybudd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Rydym wedi gweld nifer o dirlithriadau a chlogwyni’n cwympo o amgylch y sir dros y gaeaf ac rydym am i bobl sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r amgylchedd o’u cwmpas pan fyddant yma ac acw.
“Os ydych chi allan ar yr arfordir, arhoswch yn ddiogel a dilynwch ganllawiau Gwylwyr y Glannau EF i gadw'n ôl o ymylon a gwaelodion clogwyni, dilyn unrhyw arwyddion rhybuddio sydd yno, a chadw at lwybrau arfordirol sydd ag arwyddion arnynt.”
Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Ar ôl misoedd o dywydd gwlyb, rydym yn gweld bod ardaloedd o ansefydlogrwydd ar hyd sawl rhan o'r arfordir a byddem yn cynghori pawb i fod yn ymwybodol o'u hamgylchoedd a chymryd gofal ychwanegol wrth gerdded Llwybr yr Arfordir a'r traethau.
“Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o asiantaethau partner i fonitro'r arfordir a chyhoeddi gwybodaeth a chyngor trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan lle bo angen.”