Atgoffa am ddyddiad cau rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch
Deadline reminder for retail, leisure and hospitality businesses rates relief
Mae gan fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Sir Benfro nad ydynt wedi gwneud cais am ryddhad ardrethi eto tan 31 Mawrth i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26.
Ymhlith yr eiddo a all elwa o hyn mae siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Bydd rhyddhad yn cael ei roi i fusnesau cymwys fel gostyngiad i'r bil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys trwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig.
Y dyddiad cau i wneud cais yw 31 Mawrth 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhyddhad ardrethi a'r ffurflen gais ar gael ar ein gwefan yn:https://www.sir-benfro.gov.uk/trethi-busnes/rhyddhad-ardrethi-manwerthu-hamdden-a-lletygarwch-yng-nghymru