English icon English
Cystadleuydd blaenorol Ironman ar y cwrs beic ger Caeriw

Atgoffa trigolion am gyfyngiadau ffyrdd IRONMAN Cymru

Residents reminded of IRONMAN Wales road restrictions

Mae IRONMAN Cymru yn dychwelyd i Sir Benfro ymhen ychydig dros wythnos a bydd ffyrdd ar gau yn llwyr neu yn rhannol o amgylch de'r Sir.

Bydd IRONMAN Cymru yn cael ei gynnal ddydd Sul, 22 Medi a bydd miloedd o athletwyr o bob cwr o'r byd yn nofio 2.3 milltir, yna’n beicio 112 milltir cyn gorffen drwy redeg 26.2 milltir.

Bydd y nofio'n dechrau am 7.30am a rhagwelir bydd yr olaf yn gorffen tua 1am y bore canlynol.

Mae gwybodaeth lawn yn amlinellu pa ffyrdd fydd ar gau a llwybrau amgen sydd ar gael ar draws y cwrs ar gael ar wefan IRONMAN (agor mewn ffenest newydd) i helpu trigolion i gynllunio eu taith cyn y digwyddiad.

Bydd yr A40 a'r A477 yn parhau ar agor ac ni fydd effaith arnynt, i hwyluso mynediad dwyrain - gorllewin drwy gydol y digwyddiad.

Bydd mynediad llawn gan y gwasanaethau brys.

Oherwydd bod y ffordd ar gau, ni fydd modd i'r gwasanaeth bws 387/8 (Gwibfws yr Arfordir) weithredu ddydd Sul 22 Medi. Bydd y gwasanaeth yn gweithredu fel arfer ddydd Sadwrn 21ain a dydd Llun 23 Medi.

Gellir lawrlwytho'r map cau y cwrs beicio (yn agor mewn ffenestr newydd) a map cau y cwrs rhedeg hefyd o ironman.com

Bydd cyfyngiadau hefyd yng nghanol tref Dinbych-y-pysgod ddydd Sadwrn 21 Medi pan fydd IRONKIDS o bob rhan o'r sir yn cymryd rhan yn eu rasys rhedeg.

Bydd bws gwennol parcio a theithio yn rhedeg ddydd Sadwrn a dydd Sul o Faes Awyr Caeriw a Saundersfoot.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â mynediad yn ymwneud ag IRONMAN Cymru, cysylltwch â wales@ironmanroadaccess.com neu ffoniwch 03330 11 66 00 a rhowch y manylion canlynol:

  • Enw
  • Rhif ffôn
  • Cod Post Cychwyn y Daith
  • Cod Post Diwedd y Daith
  • Amser Gadael
  • Manylion yr Ymholiad

Sylwch na fydd y cyfeiriad e-bost yn cael ei fonitro ar benwythnos y digwyddiad, felly cynlluniwch ymlaen llaw.