English icon English
BIC internal - BIC mewnol

Rhaglen yr hydref yn cefnogi entrepreneuriaid Sir Benfro

Autumn programme supports Pembrokeshire entrepreneurs

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau wedi'i chynllunio ar gyfer entrepreneuriaid newydd a sefydledig yn Sir Benfro dros yr hydref yng Nghanolfan Arloesi'r Bont yn Noc Penfro.

Mae Tîm Datblygu Busnes Cyngor Sir Penfro yn gwahodd busnesau, gweithwyr llawrydd a busnesau newydd i ymuno â'r gweithdai a'r digwyddiadau rhwydweithio am ddim sy'n canolbwyntio ar ategu sgiliau, creu cysylltiadau a chymryd camau er mwyn twf.

Bydd y rhaglen yn cychwyn ar 8 Medi gyda chyfres newydd o ddigwyddiadau, gan ddechrau gyda 'Yr entrepreneur dydd Llun'.

Bydd y digwyddiad anffurfiol yn cael ei gynnal yn fisol ac yn dechrau gyda sgwrs gyda'r nos am E-fasnach gyda’r dyn busnes o Ddoc Penfro, Sean Lade. 

Bydd y gyfres hon yn archwilio amrywiaeth o bynciau dan arweiniad dynion a menywod busnes yn y sir sydd wedi profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau wrth ddatblygu mentrau llwyddiannus yn y sir gan roi awgrymiadau a chyngor.

Bydd digwyddiad Galw Heibio Busnes ym mis Medi, ar ddydd Gwener olaf y mis, yn canolbwyntio ar ficrofusnesau yn y Diwydiant Gofal, gyda chyfleoedd i siarad â gweithwyr cefnogi proffesiynol yn y diwydiant a rhwydweithio â busnesau Sir Benfro. Bydd PLANED yn bresennol i gynnig cymorth penodol yn ymwneud â'r sector hanfodol hwn sy’n tyfu.

Mae'r ymosodiadau seiber diweddar a wnaeth ddymchwel dros dro gweithrediadau cewri manwerthu yn y sir yn dangos yr angen i fusnesau o bob maint sicrhau diogelwch eu gweithrediadau. Ymunwch â'r Uned Seiberdroseddu Rhanbarthol am fore diddorol, rhyngweithiol ac ymarferol ar 10 Medi. Camwch i mewn i Her Ystafell Ddianc Seiber i gracio codau, datrys posau, a rhwystro ymosodiad. Cewch glywed diweddariadau ar y twyll diweddaraf a dysgu ffyrdd syml, effeithiol o ddiogelu eich busnes a'ch data personol. Bydd digwyddiad seiberddiogelwch pellach yn cael ei gynnal ar 13 Hydref i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.

Bridge Innovation Centre external - Canolfan Arloesi Bont allanol

Digidol a'r Cyfryngau Cymdeithasol gan yr arbenigwyr ar 15 Hydref. Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys astudiaethau achos go iawn, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb agored i fusnesau rannu heriau, cyfleoedd a gwybodaeth.

Mae hefyd cymorthfeydd datblygu busnes, digwyddiadau ar gyfer y diwydiannau creadigol ac allforio ar y gweill, dyddiadau i'w cadarnhau.

“Mae'r digwyddiadau hyn yn rhan o raglen dreigl o ddigwyddiadau i gefnogi busnesau sefydledig a busnesau newydd lleol. Rydym yn awyddus i helpu pobl i ddatblygu sgiliau hanfodol a’n nod yw bod yn ymatebol i anghenion busnes." meddai Peter Lord, Prif Swyddog Datblygu.

“I'r perwyl hwn, byddwn yn annog busnesau sydd eto i gwblhau'r arolwg busnes i wneud hynny – mae'n helpu i lywio'r rhaglenni cymorth rydyn ni'n eu datblygu.”

Mae tocynnau a rhagor o wybodaeth ar gael yn: Tocynnau Digwyddiadau Canolfan Arloesi y Bont | Eventbrite, neu dilynwch y dudalen Facebook i gael diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau, cyllid a chyfleoedd rhwydweithio: facebook/bridgeinnovation

Gellir cwblhau Arolwg Busnes Sir Benfro drwy ymweld â: https://forms.office.com/e/iP36CNBvxN

Ariennir y rhaglen hon o ddigwyddiadau gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Funded by UK Govt logo-2