Awdur yn mynd a darllenwyr o Orllewin Cymru ir Gorllewin Gwyllt
Author's tale takes readers from West Wales to The Wild West
Cyn hir, bydd stori a ysbrydolwyd gan stori wir mab ffarm o Sir Benfro a frwydrodd ym Mrwydr Little Bighorn dan General Custer ar gael i ddarllenwyr y sir wedi i’r awdur Mike Lewis roi copi i bob llyfrgell.
Cyhoeddwyd ‘If God Will Spare My Life’ (IGWSML) gan Victoria Press ac mae’n ail-ddychmygu’r digwyddiadau a ysgogodd William Batine James, o Ddinas, i allfudo i’r Unol Daleithiau ac ymrestru yn Seithfed Cafalri UDA.
Ym mis Mehefin 1876 ef oedd yr unig Gymro i ymladd ym mrwydr olaf Custer pan laddwyd 210 o filwyr UDA gan niferoedd enfawr o ymladdwyr Sioux a Cheyenne dan arweiniad Chief Sitting Bull.
Mae’r llyfr – sydd ar y rhestr fer yng Ngwobrau Llyfrau Rhyngwladol Eyelands – yn cael ei addasu yn ddrama lwyfan o’r enw ‘Ghost Rider’ a gaiff ei pherfformio yn Theatr Gwaun yn Abergwaun, yng Ngŵyl Ar Ymyl y Tir y dref fis Medi nesaf.
Ysgrifennodd Mr Lewis y nofel ar ôl darganfod pum llythyr yr ysgrifennodd William James a’u hanfon gartref lle’r oedd yn cwyno’n barhaus am y diffyg newyddion o gartref.
“Maent yn cynrychioli ochr ddynol mudwr sydd newydd gyrraedd ac sy’n cael trafferth ymdopi mewn gwlad estron,” meddai Mr Lewis.
“Mae IGWSML yn ail-ddychmygu yr hyn a sbardunodd siwrnai Will o Fynydd Dinas yr holl ffordd i fynydd y frwydr olaf yn Montana – yn ei lais ei hun.
“Fyddwn ni byth yn gwybod yn iawn, ond mae’r llythyrau hynny yn cynnwys tywyllwch amlwg.”
Er bod y nofel wedi’i chanmol am ei hymchwil trylwyr, ni fu modd dod o hyd i lun o William James, er iddo anfon un adref.
Cyflwynodd Mr Lewis gopïau o’r llyfr i Reolwr Llyfrgell Abergwaun Tracey Johnson.
Dywedodd Tracey: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Lewis am roi copïau o’i lyfr i Lyfrgelloedd Sir Benfro.
“Mae llyfrau â chysylltiad â Sir Benfro bob amser yn boblogaidd ac rwy’n siŵr bod darllenwyr yn edrych ymlaen at fwynhau’r nofel hon sy’n cysylltu Gorllewin Cymru â’r Gorllewin Gwyllt.”
Mae rhagor o wybodaeth am Lyfrgelloedd Sir Benfro ar wefan y Cyngor.