Band eang ffeibr llawn yn dod i Gaeriw a Maenorbŷr – ewch ati i addo eich taleb heddiw
Full fibre broadband coming to Carew and Manorbier – Pledge your voucher today
Gallai cartrefi a busnesau yng Nghaeriw a Maenorbŷr fwynhau band eang ffeibr llawn dibynadwy cyn bo hir, diolch i Gynllun Talebau Band Eang Gigabit (GBVS) Llywodraeth y DU a phrosiect Partneriaeth Gymunedol Ffeibr Openreach.
Mae ffeibr llawn yn cynnig cyflymderau cynt ar gyfer ffrydio, gweithio ac astudio gyda llai o namau a tharfu. Mae'n gysylltiad addas i'r dyfodol sydd wedi'i adeiladu i ymdopi ag anghenion data cynyddol am ddegawdau i ddod.
Mae Openreach yn bwriadu uwchraddio tua 1,969 eiddo - 823 yng Nghaeriw a 1,146 ym Maenorbŷr. Trwy addo eich taleb llywodraeth, gallwch helpu i sicrhau bod eich eiddo wedi'i gynnwys.
Gall cartrefi a busnesau cymwys wneud cais am daleb am ddim gwerth hyd at £4,500 i helpu i ariannu'r uwchraddio.
I gymryd rhan:
- Gwiriwch eich cymhwysedd ar wefan Cysylltu fy Nghymuned.
- Cyflwynwch eich addewid (dim cost).
- Pan fydd y targed wedi cael ei gyrraedd, cadarnhewch eich taleb pan fydd y y Llywodraeth yn gofyn.
Pan fydd y rhwydwaith newydd yn mynd yn fyw, bydd angen i chi archebu gwasanaeth band eang ffeibr llawn o'ch dewis chi am o leiaf 12 mis. Mae ymateb gwych wedi bod i'r cynllun hyd yn hyn, ond nid yw'r targed o ran nifer yr addewidion wedi'i gyrraedd eto. Felly, mae hwn yn amser gwych i roi gwybod i'ch ffrindiau a'ch teulu am y cynllun er mwyn gofalu nad ydynt yn colli allan. Mae cynlluniau ac amserlenni terfynol yn dibynnu ar nifer yr addewidion ac arolygon technegol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Mae cael band eang gwell yn hollbwysig er mwyn i gymunedau gwledig ffynnu wrth i ni symud tuag at gymdeithas ddigidol. Mae Cynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU ar y cyd ag Openreach yn cynnig ateb â chymhorthdal i ateb anghenion ar-lein heddiw fel na chaiff pobl eu gadael ar ôl, yn enwedig yn y rhannau hynny o Sir Benfro sydd wedi dioddef o gysylltedd gwael yn draddodiadol."
Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru: "Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i bobl Caeriw a Maenorbŷr ddod â holl fanteision band eang ffeibr llawn i'w cymunedau. Mae ein peirianwyr eisoes wedi dechrau gweithio i uwchraddio'r rhwydwaith ar draws Caeriw a Maenorbŷr diolch i fwy na 429 o safleoedd sydd eisoes wedi addo eu taleb. Fodd bynnag, rydym angen i 42 o gartrefi eraill addo eu talebau, a fydd yn caniatáu i'n peirianwyr gwblhau'r gwaith ar y ffeibr llawn."
Mae prosiectau Partneriaeth Gymunedol Ffeibr yn digwydd ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Gwyliwch y fideo hwn i weld sut y defnyddiodd trigolion Dale, Sir Benfro, y Cynllun Talebau Band Eang Gigabit i gael ffeibr band eang yn eu pentref. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Hyrwyddwyr Digidol ar gyfer Sir Benfro neu ewch i wefan Openreach.