English icon English
Neuadd y Farchnad Dinbych y Pysgod

Beth am gynnal stondin Nadolig ym Marchnad Dinbych-y-pysgod yn y cyfnod cyn y Nadolig?

Hold a Christmas pop-up at Tenby Market this festive season

Gwahoddir cynhyrchwyr, crefftwyr ac artistiaid lleol i ddod â rhywbeth newydd i'r farchnad gyda stondinau Nadoligaidd dros dro ym Marchnad Dinbych-y-pysgod.

Dyma gyfle i ychwanegu at naws tymhorol y farchnad a gwneud cyfraniad cadarnhaol at y bwrlwm yno.

Gall stondinwyr wneud cais am un diwrnod neu archebu lle rheolaidd hyd at y Nadolig, gyda phrisiau yn ddim ond £20 y dydd yn ystod yr wythnos neu £25 y dydd am benwythnosau.

Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi cyfle i fusnesau newydd a'r bobl hynny sydd eisiau cael cyfle i roi cynnig arni. Os bydd yn llwyddiannus, y gobaith yw y gellir cynnig rhagor o gyfleoedd i gynnal stondinau dros dro fel nodwedd reolaidd.

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall: "Mae hwn yn gyfle gwych i gynhyrchwyr annibynnol a chrefftus gyrraedd cwsmeriaid newydd ac ychwanegu at naws yr ŵyl yn ein tref hyfryd."

Yn ogystal â'r stondinau dros dro mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd corau sydd â diddordeb mewn perfformio yn y farchnad yn y cyfnod cyn y Nadolig i gysylltu â ni.

Bydd Cyngor y Dref yn gweithio gyda stondinwyr i greu awyrgylch Nadoligaidd yn y farchnad.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Am fwy o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch propertyhelpdesk@pembrokeshire.gov.uk.