English icon English
Christmas tree shredding - Torri coed Nadolig

Archebion ar agor i gasglu coed Nadolig go iawn

Bookings open for real Christmas tree collections

Mae trigolion Sir Benfro unwaith eto yn gallu trefnu i’w coeden Nadolig go iawn gael ei chasglu o ymyl y ffordd dros gyfnod yr ŵyl.

Am dâl o £5 y goeden, bydd coed Nadolig go iawn yn cael eu casglu o gartrefi preswylwyr ar ddiwrnod penodol cyn cael eu hanfon i gyfleuster yn Sir Benfro i’w malu a’u compostio.

Cyflwynwyd y ffi fel rhan o ystod o opsiynau i arbed arian a gymeradwywyd gan y Cyngor er mwyn gallu mantoli’r gyllideb a sicrhau y gall elfennau statudol y gwasanaeth barhau yng ngoleuni'r sefyllfa ariannol ddigynsail y mae'r Cyngor yn ei chael ei hun ynddi.

Bydd y gwasanaeth casglu yn dechrau o ddydd Llun 8 Ionawr 2024 a gall deiliaid tai sy'n dymuno trefnu casgliad wneud hynny drwy Fy Nghyfrif neu drwy ffonio canolfan gyswllt y Cyngor ar 01437 764551.

Bydd ceisiadau am gasgliadau ar gael drwy'r ganolfan gyswllt tan 5 Ionawr a thrwy Fy Nghyfrif tan 7 Ionawr.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Rydym wedi gallu cynnal y gwasanaeth casglu am ffi fach, ond gall aelwydydd fynd â'u coed Nadolig i unrhyw un o'n Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu am ddim, gellir trefnu hyn trwy wefan CSP, Fy Nghyfrif neu drwy'r ganolfan gyswllt.

"Mae'r casgliadau hyn hefyd yn cyfrannu at berfformiad ailgylchu Sir Benfro ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein henwi'n un o ddim ond pum awdurdod yng Nghymru sydd eisoes wedi cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o dros 70%."

Am fanylion gwasanaethau'r Cyngor dros gyfnod y Nadolig, gan gynnwys oriau agor y ganolfan gyswllt a'r Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu, ac amseroedd agor ychwanegol a chasgliadau gwastraff ac ailgylchu ar ochr y ffordd, gweler gwefan y Nadolig yn Sir Benfro