
Y Comisiwn Ffiniau yn cyhoeddi Argymhellion Terfynol ar gyfer trefniadau cymunedol yn Sir Benfro
Boundary Commission publishes Final Recommendations for community arrangements in Pembrokeshire
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei Argymhellion Terfynol ar gyfer trefniadau cymunedol Sir Benfro yn y dyfodol.
Mae'r argymhellion yn dilyn dau gyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd, pan wnaethpwyd llawer o sylwadau ar drefniadau cymunedol Sir Benfro.
Mae'r rhain yn cynnwys nifer y cynghorau cymuned a thref, eu ffiniau, a nifer y cynghorwyr o fewn pob cymuned.
Prif nod yr adolygiad oedd sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Rhan o hyn yw sicrhau bod cynrychiolaeth ar gynghorau tref a chymuned yn debyg ar draws pob cyngor yn Sir Benfro, cyn belled â bod hynny’n ymarferol.
Mae'r Adroddiad Argymhellion Terfynol yn cynnwys holl argymhellion y Comisiwn ar gyfer Sir Benfro. Lle mae wedi gwneud newidiadau i'r trefniadau presennol, ceir disgrifiad o'r newid, y sylwadau a dderbyniwyd, y rhesymau dros newid a map o'r argymhellion yn yr adroddiad.
Mae'r Adroddiad Argymhellion Terfynol wedi'i gyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru, a mater i Lywodraeth Cymru nawr yw penderfynu sut i fwrw ymlaen. Fel arfer, byddant yn gwneud Gorchymyn.
Bydd unrhyw newidiadau a gynhwysir yn y Gorchymyn yn dod i rym yn yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2027.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Neil Prior, Aelod Cabinet dros Gymunedau, Gwella Corfforaethol, a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:
“Hoffem ddiolch i'r Comisiwn am y gwaith trylwyr a chytbwys a wnaed drwy gydol yr adolygiad. Hoffem hefyd ddiolch i'r sefydliadau a'r unigolion a gymerodd yr amser i gyflwyno sylwadau yn ystod y ddau gyfnod ymgynghori.
“Wrth i Lywodraeth Cymru gymryd y camau nesaf, bydd newidiadau'n cael eu gweithredu yn 2027 ar gyfer y rownd nesaf o etholiadau lleol.”
Gellir dod o hyd i'r Argymhellion Terfynol ar wefan y Comisiwn (yn agor mewn tab newydd): https://www.cdffc.llyw.cymru/arolygon/01-25/pembrokeshire-community-review-final-recommendations