Adolygiad y Comisiwn Ffiniau o drefniadau cymunedol ac etholiadol ar y gweill
Boundary Commission review of community and electoral arrangements underway
Mae Adolygiad Cymunedol o drefniadau etholiadol yn ardal Prif Gyngor Sir Penfro yn cael ei gynnal gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Cytunodd Cyngor Sir Penfro ar Bolisi Maint y Cyngor ar 12 Hydref.
Mae Polisi Maint y Cyngor yn creu rhesymeg dros bennu nifer y cymunedau - a nifer y cynghorau tref a chymuned a chynghorwyr - yn seiliedig ar etholwyr y gymuned honno.
Dylai anelu at sicrhau bod cynrychiolaeth ar gynghorau tref a chymuned, i'r graddau y bo'n ymarferol, yr un fath ar draws pob cyngor cymuned yn Sir Benfro.
Cam cyntaf yr adolygiad yw gofyn i bob parti sydd â diddordeb ystyried ffiniau presennol y gymuned a chyflwyno eu barn ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i greu cymunedau sy'n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Yna bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu hystyried, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi Adroddiad Cynigion Drafft a bydd yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny.
Bydd yr holl gyflwyniadau wedyn yn cael eu hystyried, a bydd argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, os ydynt yn credu ei fod yn briodol, yn gweithredu'r argymhellion hyn naill ai fel rhai wedi’u cyflwyno, neu gydag addasiadau.
Agorodd y cyfnod ymgynghori cychwynnol ddydd Llun, 23 Hydref a bydd yn para tan ddydd Sul, 1 Rhagfyr.
Mae'r Arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Comisiwn Ffiniau (yn agor mewn tab newydd) a gellir ei gyrchu hefyd trwy borth Dweud Eich Dweud y Cyngor.