English icon English
Cyfarwyddwyr Tenby Brewing Co, James Beaven, Rob Faulkner a Aaron Smith gyda Cllr Paul Miller.

Bragdy poblogaidd yn ne Sir Benfro i ymuno ag adfywiad Hwlffordd

Popular south Pembrokeshire brewery to join Haverfordwest regeneration

Mae'r meddiannydd diweddaraf yn paratoi i symud i ddatblygiad newydd Glan Cei’r Gorllewin yn Hwlffordd. 

Mae'r bragdy poblogaidd, Tenby Brewing Company, wedi cytuno ar brif delerau i brydlesu'r hen Ffowndri yng Nglan Cei’r Gorllewin, gan gydnabod y cyfleoedd cyffrous a ddarperir gan y datblygiad.

Mae Tenby Brewing Company wedi bod yn bragu cwrw annibynnol llawn blas ers 2015, gan ddefnyddio'r cynhwysion o'r ansawdd gorau a dŵr pur Sir Benfro a bellach mae’r hyn y mae’n ei gynnig yn Ninbych-y-pysgod ac Arberth yn ymestyn ymhellach ledled y Sir.

Mae'r lleoliad newydd yn bwriadu gweini cwrw a seidr Tenby Brewing Company, sydd eisoes ar gael mewn llawer o dafarndai, siopau a bwytai ledled y DU. Bydd yn cydweithio ag amrywiaeth o gyflenwyr gwadd er mwyn darparu bwyd stryd hefyd.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: "Mae Glan Cei’r Gorllewin yn rhan bwysig o'n cynllun adfywio hirdymor ar gyfer y Dref Sirol, ac mae hwn yn gam pwysig arall ymlaen. Mae'n wych cael y bois yn Tenby Brewing Company yn rhan o hyn.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Cwmni, James Beaven: "Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi agor ein bar newydd sbon yn Hwlffordd, wedi'i leoli wrth ymyl glan yr afon prydferth yn ardal fywiog y datblygiad newydd gyferbyn â'r bont newydd.

“Mae'r Ffowndri yn rhan o dreftadaeth ddiwydiannol y dref ac rydym yn teimlo'n freintiedig i roi bywyd newydd i'r hen adeilad cerrig. Bydd y bar yn gweini dewis o gwrw crefft ffres wedi'u bragu gan Tenby Brewing Co., ochr yn ochr â bwydlen anhygoel o fwyd stryd.

“Nod y fenter newydd gyffrous hon yw dod yn lleoliad i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan ddod â bragu annibynnol a bwyd gwych i galon Hwlffordd.”

Ychwanegodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Thomas Tudor: "Mae hyn yn newyddion gwych i Hwlffordd ac edrychaf ymlaen at groesawu Tenby Brewing Company i ganol y dref."

 

Yn y llun: Cyfarwyddwyr Tenby Brewing Co., James Beaven, Rob Faulkner a Aaron Smith gyda Cllr Paul Miller.