English icon English
pwyntio at gynlluniau gyda beiros

Brodyr yn cael dirwy o £1,000 yr un am fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi cynllunio

Brothers fined £1,000 each for failing to comply with planning enforcement notice

Mae dau frawd wedi cael dirwy o £1000 yr un am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi a roddwyd gan Adran Gynllunio Cyngor Sir Penfro.

Ymddangosodd Ryan a Declan Cole o Clifton Villa, Clunderwen, yn Llys Ynadon Hwlffordd ar Fawrth 9fed.

Roedd yr ymgeiswyr wedi gofyn am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol ar gyfer adeilad amaethyddol mawr, llawr caled a thrac mynediad a wrthodwyd gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor ar 6ed Medi 2022.

Roedd y cais yn cyfeirio at dir yn Fferm y Cwm, Llawhaden.

Roedd yr ymgeiswyr wedi gwneud dau gais cynllunio aflwyddiannus yn y gorffennol yn ymwneud â'r un datblygiadau yn 2019 a 2020.

Ar 12fed Chwefror 2021, cyhoeddodd Adran Gynllunio'r Cyngor hysbysiad gorfodi o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i'r brodyr dynnu'r strwythurau i lawr o fewn pedwar mis.

Cafodd hyn ei ymestyn i naw mis gan yr Arolygiaeth Gynllunio, ond fe fethodd yr ymgeiswyr â chydymffurfio.

Fe wnaeth y Cyngor gyflwyno gwŷs i'r Coles ymddangos o flaen ynadon yn Hwlffordd lle bu iddyn nhw bledio'n euog i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi.

Cafodd Ryan, 24, a Declan, 23, ddirwy o £1000 ynghyd â gordal i ddioddefwyr o £100 ac mae'n rhaid iddynt hefyd dalu costau cyfreithiol.

Mae'r Cyngor bellach wedi gwneud cais i'r Uchel Lys am waharddeb i dynnu'r gwahanol strwythurau.

Mae disgwyl i'r cais hwnnw gael ei glywed yn Llysoedd Busnes ac Eiddo Cymru, Caerdydd, ar 19 Ebrill 2023.

Meddai'r Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Gynllunio a Chyflenwi Tai: "Rwy'n falch o weld y dirwyon a osodwyd gan y llys a mae'r achos hwn yn dangos y bydd unrhyw un sy'n anwybyddu'r broses gynllunio gyfreithiol ac sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiadau gorfodi, heb os, yn wynebu'r canlyniadau. 

"Rwy'n canmol yr Adran Gynllunio am eu diwydrwydd yn y mater hwn a byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried ymgymryd â datblygiad i siarad gyda'n tîm cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith.

"Bydd swyddogion yn hapus i helpu i ddarparu cadarnhad ynghylch a fydd angen caniatâd cynllunio a pha wybodaeth sydd angen ei chyflwyno fel rhan o gais cynllunio."