Bwyty Buddha Buddha yn cael dirwy am fethu ag arddangos y sgôr hylendid bwyd cywir
Buddha Buddha restaurant fined for failing to display correct food hygiene rating
Mae Ynadon wedi clywed bod bwyty yn Ninbych-y-pysgod wedi dangos sgôr hylendid o 5 pan oedd y sgôr bresennol ar gyfer y safle mewn gwirionedd yn 1.
Cyhoeddwyd sgôr o 1 ar gyfer Bwyty Buddha Buddha, Sgwâr Tudur, Dinbych-y-pysgod, yn dilyn archwiliad o'r safle gan Swyddog Is-adran Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro ar 13 Tachwedd, 2023.
Mae Busnesau Bwyd o dan rwymedigaeth i arddangos eu sgôr hylendid bwyd ym mhob mynedfa, er mwyn rhoi cyfle i ddarpar gwsmeriaid weld y sgôr cyn mynd i mewn.
Pan ailymwelodd y Swyddog â'r safle ar 27 Ionawr 2024, roedd y sgôr hylendid bwyd blaenorol o 5 yn cael ei harddangos wrth fynedfa'r safle, yn hytrach na'r sgôr wirioneddol o 1, a oedd yn gamarweiniol i gwsmeriaid.
Cafodd hysbysiad cosb benodedig ei gyflwyno wedyn i Mr Sanu Miah, gweithredwr Buddha Buddha ond ni wnaeth dalu, er iddo gael nifer o gyfleoedd i wneud hynny.
Yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ar 19 Medi, plediodd Mr Miah yn euog i'r drosedd o fethu ag arddangos y sgôr hylendid bwyd dilys.
Cafodd Mr Miah ddirwy o £200 am y drosedd a dyfarnwyd costau o £500 i'r Cyngor gan yr ynadon. Gorfodwyd gordal dioddefwr o £80 hefyd.
Yn dilyn yr achos, dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae'n bwysig iawn i lwyddiant y ddeddfwriaeth Sgoriau Hylendid Bwyd, fod busnesau bwyd yn cydymffurfio â'r gofyniad i arddangos y sgôr hylendid bwyd cywir ar gyfer eu safleoedd.
"Mae methu â gwneud hynny yn amddifadu defnyddwyr o wybodaeth y mae ganddynt hawl gyfreithiol i'w gweld, er mwyn helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble maent yn dewis bwyta.
“Mae'r cyngor yn awyddus i sicrhau bod pob busnes yn arddangos ei sgoriau yn gywir a bydd yn cymryd camau priodol pan fo busnesau'n methu â gwneud hynny".