Cyllideb ar gyfer 2026-27 wedi'i chymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro
Budget for 2026-27 approved by Pembrokeshire County Council
Mae'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, 2026-27, wedi'i chymeradwyo heddiw gan Gyngor Sir Penfro (dydd Gwener, 20 Chwefror).
Bydd y gyllideb yn gweld cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion (£4.7 miliwn), ar gyfer Gofal Cymdeithasol (£5.9 miliwn) ac ar gyfer nifer o wasanaethau cyhoeddus rheng flaen hanfodol eraill gan gynnwys Cynnal a Chadw Ffyrdd ac Adeiladau.
Bydd y dreth gyngor yn codi £1.46 yr wythnos ar gyfer eiddo band D.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd, y Cynghorydd Alistair Cameron: "Hoffwn ddiolch i'r trigolion hynny a ymatebodd i'r ymgynghoriadau cyhoeddus diweddar ac rwyf eisiau sicrhau trigolion bod y gyllideb hon wedi'i gosod yn unol â'ch anghenion a'ch blaenoriaethau.
“Mae'r gyllideb hon yn cefnogi'r meysydd gwasanaeth rydyn ni wedi'u nodi sydd angen buddsoddiad ychwanegol, fel ysgolion a gofal cymdeithasol. Bydd ysgolion ledled Sir Benfro yn derbyn £4.7m o gyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf, sy'n dilyn y £13.6M o fuddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion dros y ddwy flynedd flaenorol.
"Bydd y gyllideb hon hefyd yn rhoi cyllid ychwanegol i nifer o wasanaethau rheng flaen y gwyddom fod angen eu blaenoriaethu gan gynnwys atgyweirio ffyrdd, clirio gylïau a chynnal a chadw adeiladau.
"Mae Sir Benfro, fel pob awdurdod lleol, yn wynebu galw cynyddol ar feysydd gwasanaeth allweddol ond mae'r weinyddiaeth hon yn ymwybodol iawn na allwn barhau i ofyn i drigolion dalu llawer mwy o Dreth Gyngor bob blwyddyn. Mae'r gyllideb hon yn cydnabod hyn wrth ddiogelu gwasanaethau hanfodol."
Gallwch wylio cyfarfod y gyllideb yma: https://pembrokeshire.public-i.tv/core/portal/home