Angen contractwyr adeiladu ar gyfer gwaith y Cyngor
Building contractors needed for Council work
Galwad am gontractwyr adeiladu - byddai Cyngor Sir Penfro yn dwlu clywed gennych.
Os ydych chi'n berchen ar fusnes, mawr neu fach, sy'n arbenigo mewn gwaith cynnal a chadw ac adeiladau, bydd cyfres o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal i amlinellu cyfleoedd i weithio gyda'r Cyngor. Mae’r Cyngor angen cymorth i ddarparu gwaith ar dai ac eiddo heblaw am dai ar draws ystâd gorfforaethol y Cyngor.
Fe fydd Cyngor Sir Penfro yn comisiynu Fframwaith Gwaith Mân newydd yng ngwanwyn 2024 ac yn gwahodd contractwyr i wneud gwaith cynnal a chadw a gwelliannau i adeiladau, addasiadau i dai a gwaith cysylltiedig arall.
Fodd bynnag, cyn y tendr newydd hwn, oherwydd llwyth gwaith uchel, mae’r Cyngor ynchwilio am gontractwyr lleol i ddod i'r adwy i ategu contractwyr presennol am gyfnod dros dro rhwng Medi 2023 ac Ebrill 2024.
Yn ystod mis Medi, bydd y Cyngor yn cynnal sesiynau galw heibio i gontractwyr i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael.
Cynhelir y sesiynau hyn ledled y Sir ar gyfer busnesau a allai fod â diddordeb mewn gweithio i'r Awdurdod.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Mae cefnogi'r economi leol yn greiddiol i weithgareddau'r Cyngor, felly hoffem annog cymaint o fusnesau yn Sir Benfro â phosibl i wneud cais am y fframwaith hwn".
Bydd sesiynau ymgysylltu yn cael eu cynnal yn:
Neuadd y Dref Abergwaun, Dydd Mawrth Medi 5, 9am-hanner dydd
Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, Dydd Mercher Medi 6, 9am- hanner dydd
Depo Thornton, Dydd Mercher Medi 6, 1pm-5pm.
Bydd te, coffi a phasteiod am ddim ar gael.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: joanne.bartlam@pembrokeshire.gov.uk