
Busnesau sy’n gwerthu fêps untro yn cael eu rhybuddio y byddant yn cael eu gwahardd yn fuan
Businesses selling single-use vapes warned of impending ban
Atgoffir unrhyw un sy’n gwerthu fêps untro y bydd yn anghyfreithlon i wneud hynny o 1 Mehefin 2025 ymlaen.
Bydd hefyd yn anghyfreithlon cynnig gwerthu, neu gael yn eich meddiant er mwyn gwerthu, yr holl fêps untro neu ‘tafladwy’ – boed ar-lein neu mewn siop ac a ydynt yn cynnwys nicotin ai peidio.
Bydd gan fusnesau tan 1 Mehefin 2025 i werthu unrhyw stoc sy’n weddill ac i baratoi ar gyfer y gwaharddiad sy’n dod i rym.
Nid yw fêps y gellir eu hailddefnyddio, y rhai y gellir eu hailwefru a’u hail-lenwi, yn cael eu heffeithio gan y gwaharddiad.
Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r gwaharddiad fel rhan o’i hymrwymiad i fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol a’r cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio.
Yn nodweddiadol, caiff fêps untro eu taflu fel gwastraff cyffredinol neu eu taflu fel sbwriel, yn hytrach na’u hailgylchu. Hyd yn oed ar gyfer y rhai sy’n cael eu hanfon i gyfleusterau ailgylchu, mae’r broses ailgylchu yn araf ac yn anodd.
Mae taflu sbwriel yn difetha cymunedau, yn cyflwyno sylweddau niweidiol i’r pridd, afonydd a nentydd, ac yn achosi niwed i fioamrywiaeth.
Gall y batris ïon lithiwm a ddefnyddir hefyd beri risg tân.
Mae ffigurau’n dangos bod nifer y plant a phobl ifanc sy’n dechrau fepio yn parhau i gynyddu a fêps untro yw’r cynnyrch y mae’r rhan fwyaf o blant sy’n fepio yn eu dewis. Y gobaith yw y bydd y gwaharddiad yn atal y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n dechrau fepio.
Ar gyfer pob oedran, nid yw effeithiau iechyd hirdymor fêps yn hysbys, er y gwyddys bod symptomau tynnu’n ôl o fod yn gaeth i nicotin yn achosi pryder, trafferth canolbwyntio a chur pen.
Atgoffir manwerthwyr ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps nicotin i unrhyw un dan 18 oed. Mae hefyd yn drosedd i oedolyn brynu fêps nicotin ar ran unigolyn dan 18 oed.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth y DU (yn agor mewn ffenestr newydd).