Baner Cymru

Y cabinet yn argymell cymeradwyo bod Sir Benfro yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026

Cabinet recommended to approve Pembrokeshire hosting 2026 National Eisteddfod

Rhannu:

Mae Aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro yn cael eu hargymell i gymeradwyo cynnig i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2026.

Mae safle oddi ar yr A487 yn Llantwd yng ngogledd y Sir wedi'i nodi ac mae'n bodloni llawer o'r meini prawf gofynnol i gynnal y digwyddiad, yn ôl adroddiad a gyflwynwyd gerbron yr Aelodau.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet ddydd Iau, 11 Gorffennaf yn dweud bod 2026 yn nodi 850 o flynyddoedd ers cynnal yr Eisteddfod yn ardal Dyffryn Teifi.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu: "Mae angen partneriaeth gref ac ymroddedig rhwng yr Awdurdod Lleol, yr Eisteddfod Genedlaethol a chymunedau er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus a ddymunir.

"Mae angen canolbwyntio'n gryf ar y diwylliant a'r dreftadaeth leol sy'n cyd-fynd â'r rhaglen weinyddu gan gynnwys cefnogi datblygiad economaidd ac adfywio ochr yn ochr ag ymrwymiad y Cyngor i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Gan nad oes cyllid penodol wedi'i glustnodi ar gyfer cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd angen nodi ffynhonnell ariannu, gan gynnwys y potensial i ddenu nawdd allanol.

Os oes angen cyllid gan y Cyngor, gallai hyn fod yn bosibl o gyllideb y digwyddiadau neu gronfeydd wrth gefn fel digwyddiad untro, yn ôl yr adroddiad.

Gofynnir i Aelodau'r Cabinet gymeradwyo'n ffurfiol y cynnig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y Cabinet yn cyfarfod ddydd Iau, 11 Gorffennaf am 10am a bydd yn cael ei weddarlledu fel arfer.