Y cabinet i ystyried adroddiad cyllideb 2026-27 y Cyngor
Cabinet to consider Council 2026-27 budget report
Bydd Cabinet Cyngor Sir Penfro yn ystyried opsiynau ar gyfer pennu cyllideb 2026/27 y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhelir ddydd Llun, 9 Chwefror.
Yr opsiynau cyllidebol a gynigiwyd yw cynnydd o 4.6% yn y Dreth Gyngor (£1.46 yr wythnos ar eiddo Band D) neu gynnydd o 7.5% yn y Dreth Gyngor (£2.38 yr wythnos ar eiddo Band D).
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey: "Wrth bennu cyllideb eleni ein bwriad yw gofyn am y lleiaf posibl gan drigolion sy'n talu trethi gan barhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol y maent yn dibynnu arnynt.
“Rwy'n disgwyl i'r Cabinet argymell i'r Cyngor gynyddu'r Dreth Gyngor ar ben isaf yr ystod opsiynau yng nghyfarfod dydd Llun.
“Rwy'n credu bod hyn yn gyflawnadwy, ac yn diogelu gwasanaethau a darparu llawer mwy o arian, £4.7M ychwanegol i'n hysgolion.
“Hefyd, mae angen arian ychwanegol ar gyfer ein timau cynnal a chadw priffyrdd, ein timau cynnal a chadw adeiladau a'n timau glanhau strydoedd. Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hyn yn bwysig i breswylwyr ac felly rydym yn bwriadu eu blaenoriaethu.
“Mae'r pandemig a'r effaith ganlyniadol ar y system ariannol, ynghyd â galw cynyddol mewn darpariaeth gofal cymdeithasol, wedi dod â chynnydd anodd iawn ond anochel yn y Dreth Gyngor.
“Wrth symud ymlaen, rwy'n ymwybodol iawn na allwn barhau i ofyn i drigolion dalu llawer mwy a’n bwriad yw mynd yn ôl at gynnydd yn y Dreth Gyngor sy'n unol yn fras â chwyddiant.”
Mae'r Cabinet yn cyfarfod am 10am ddydd Llun Chwefror 9fed a bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu fel arfer drwy'r gwe-ddarllediad yn https://pembrokeshire.public-i.tv/core/portal/home