Cadair ar gyfer adrodd storïau yn Ysgol Sant Marc yn dathlu enwau newydd y dosbarthiadau
Storytelling chair at St Mark’s School celebrates new class names
Roedd plant o Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Marc yn Hwlffordd wrth eu bodd o weld sut mae eu gwaith celf wedi ysbrydoli’r artist lleol Robert Jakes yn nyluniadau ei gadair anferth ar gyfer adrodd storïau.
Mae’r gadair bellach wedi’i gosod ar dir Ysgol Sant Marc, ac mae’n dathlu enwau newydd y dosbarthiadau yn yr ysgol, sef Morfil, Cadno, Pili Pala, a Barcud Coch.
Mae’r Pennaeth, Heather Cale, a’r Dirprwy Bennaeth, Richard Owen, wedi canmol medrusrwydd Robert Jakes wrth gynnwys darluniau’r plant yn ei gerfiadau, gan siarad yn ysbrydoledig â’r disgyblion am bwysigrwydd dysgu fel eu bod hwythau hefyd, un diwrnod, yn gallu rhannu eu sgiliau eu hunain â’r genhedlaeth iau.
Bu staff o Sbardun yn cefnogi Ysgol Sant Marc i ddatblygu eu mannau dysgu awyr agored, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru y bu’r prosiect yn helpu’r ysgol i’w sicrhau at ddefnydd y gymuned.
Yn ogystal â’r gadair adrodd storïau, cafodd pydew tân, cylch adrodd storïau, meinciau cyfeillion, dodrefn awyr agored ac unedau storio awyr agored eu gosod yn ddiweddar ar dir yr ysgol gan ddefnyddio’r cyllid a gafodd ei sicrhau.
Mae Laura Phillips, Cydgysylltydd Sbardun, wedi’i phlesio’n fawr gan y gwelliant cyflym y mae’r ychwanegiadau newydd hyn wedi’i wneud i dir yr ysgol.
“Rwy’n awyddus dros ben i weld sut y gall teuluoedd elwa ar ddysgu yn yr awyr agored yn yr ysgol wrth i dymor yr haf gyrraedd ei anterth,” meddai.
Dywedodd y Pennaeth, Mrs Cale: “Fel ysgol, rydym wrth ein bodd bod ein hardaloedd awyr agored yn parhau i gael eu datblygu fel bod ein dysgwyr a’r gymuned ehangach yn gallu elwa ar fannau mor ysbrydoledig a chreadigol.”
Pennawd:
Yn y llun, o amgylch y gadair newydd ar gyfer adrodd storïau, mae’r disgyblion Tiberius, Aaeesha, Leon, Mal, Rachel, Reuben a Tallulah. Hefyd yn y llun mae’r Pennaeth, Mrs Cale, Ymgynghorydd Sbardun, Laura O’Loughlin, yr Artist, Robert Jakes, y Dirprwy Bennaeth, Mr Owen, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Fr Neil Hook, a Tracy Crew (Cynghorydd Sbardun).