English icon English
tu mewn i siambr y cyngor

Galwad i lenwi lle gwag yn y Pwyllgor Safonau

Call to fill Standards Committee vacancy

Mae angen Cynghorydd Tref neu Gymuned yn Sir Benfro i gymryd lle ar y Pwyllgor sy'n hyrwyddo ac yn cynnal safonau ar gyfer cynghorwyr yn y sir.

Ar hyn o bryd mae gan y Pwyllgor Safonau le gwag ar gyfer aelod Cyngor Tref neu Gymuned.

Mae'r Pwyllgor yn chwarae rhan bwysig, gan gynnwys ystyried adroddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar achosion honedig o dorri'r Cod Ymddygiad.

Gofynnir i unrhyw Gynghorydd Tref neu Gymuned a fyddai â diddordeb gysylltu â Kate Matthews o'r tîm Gwasanaethau Democrataidd yng Nghyngor Sir Penfro drwy e-bost: kate.matthews@pembrokeshire.gov.uk

Anfonir ffurflen gais a rhaid ei dychwelyd erbyn 23 Mehefin 2023.

Disgwylir y bydd unrhyw ymarfer llunio rhestr fer/cyfweliadau yn cael eu cynnal ddiwedd mis Mehefin 2023.

Byddai'r cynrychiolydd newydd yn aros ar y Pwyllgor Safonau tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf yn 2027 neu hyd nes y byddant yn peidio â bod yn Aelod.