Galw i gymryd rhan yn ymgynghoriad Cyllideb y Cyngor 2024 – 25
Call to take part in Council’s Budget 2024 – 25 consultation
Mae galwad yn mynd allan i bobl gael dweud eu dweud ar gyllideb Cyngor Sir Penfro ar gyfer y flwyddyn nesaf, 2024-25.
Fel pob Cyngor arall yng Nghymru, mae'r Cyngor yn parhau i wynebu pwysau cyllidebol sylweddol - yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw parhaus.
Mae Alec Cormack, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid, yn annog pawb sydd â diddordeb yn y ffordd mae’r Cyngor yn cael ei ariannu a sut mae'n gwario ei arian i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n clywed gan gymaint o bobl yn Sir Benfro â phosib," meddai
"Fel Cynghorau eraill, rydym ni unwaith eto yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol ac mae deall blaenoriaethau cymunedol ac aelwydydd yn hanfodol i'n helpu i wneud y dewisiadau anodd sy'n angenrheidiol wrth bennu cyllideb 2024-25.
“Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi."
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys amrywiaeth o gynigion ar newidiadau i wasanaethau, ffioedd a thaliadau a’r Dreth Gyngor.
I gael gwybod mwy ac i roi eich barn ewch i: https://dweudeichdweud.sir-benfro.gov.uk/ymgynghoriad-cyllideb-2024-25
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Mercher 3 Ionawr 2024