English icon English
Carys Ribbon

Canlyniadau rhagorol i Lysgennad Aur ifanc Sir Benfro

Top marks for Pembrokeshire young Gold Ambassador

Mae Llysgennad Aur ifanc i Sir Benfro wedi’i chydnabod yn genedlaethol am ei gwaith yn dylanwadu, yn arwain ac yn ysbrydoli eraill i fod yn fwy actif.

Cafodd Carys Ribbon, sy’n ddisgybl o Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd, y gydnabyddiaeth gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.

Mae Carys yn rhoi o’i hamser yn yr ysgol yn ogystal â’r gymuned ehangach, lle mae wedi helpu yn ddiweddar i gyflwyno sesiynau cynhwysfawr yn Ysgol Portfield a chefnogi plant rhwng pedair a chwech oed yng nghlwb amlsgiliau Hwlffordd.

Mae hefyd wedi cwblhau Gwobr Arweinwyr Pêl-droed Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn barod i ddechrau sesiynau hyfforddi pêl-droed gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Gwnaeth Rominy Colville o Chwaraeon Sir Benfro, sy’n cefnogi’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc, ganmol Carys am ei brwdfrydedd a’i hymroddiad.

“Dechreuodd Carys ar ei thaith fel Llysgennad Ifanc yn ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Tasker Milward, gan fynd ymlaen i fod yn Llysgennad Arian yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd, lle bu’n helpu gydag amrywiaeth o weithgareddau megis gwyliau ysgolion cynradd a chystadlaethau rhwng dosbarthiadau,” meddai Rominy.

“Rydym yn falch iawn bod ei gwaith caled wedi’i gydnabod, a hoffem ddiolch iddi am yr holl gefnogaeth y mae’n ei rhoi i bobl ifanc yn Sir Benfro ac am eu helpu i fyw bywydau iach ac actif.”

Mae Carys yn un o 10 o Lysgenhadon Ifanc Aur yn Sir Benfro; mae'r Llysgenhadon eraill yn ddisgyblion yn Ysgol Preseli, Ysgol Aberdaugleddau, Ysgol Greenhill ac Ysgol Harri Tudur.