English icon English
Llyfrgell newydd i Arberth

Carreg filltir bwysig i Lyfrgell Newydd Arberth

Major milestone for new Narberth Library

Mae disgwyl i adeilad llyfrgell newydd sbon ar gyfer Arberth gael ei drosglwyddo i Gyngor Sir Penfro gan y datblygwyr lleol Andrew Rees a Charles Salmon o Arberth Old School Developments erbyn dechrau Mehefin, yn barod i'w ddodrefnu.

Mae disgwyl i'r llyfrgell newydd agor ddechrau 2024 ac fe fydd wedi ei lleoli ger hen safle ysgol gynradd Arberth - sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Yr Hwb.

Bydd yn parhau i gael ei redeg gan bartneriaeth dair ffordd lwyddiannus rhwng Gwasanaeth Llyfrgell Sir Benfro, Cyfeillion Llyfrgell Arberth a Chyngor Tref Arberth.

Dywedodd y datblygwr Charles Salmon eu bod yn falch o fod yn rhan o ddatblygiad y llyfrgell, gan ychwanegu bod yr adeilad wedi'i ddarparu am ddim ac ar rent rhad iawn am y 125 mlynedd nesaf. 

Bydd y gwaith o ddodrefnu'r adeilad yn digwydd dros weddill y flwyddyn galendr, gyda disgwyl iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024.

Bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan Grant Trawsnewid Cyfalaf gan Lywodraeth Cymru o £149,997 a sicrhawyd gan y gwasanaeth llyfrgelloedd ynghyd â £30k o gyllid Adran 106.

"Mae'n newyddion gwych bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn Arberth unwaith eto," meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr.

"Bydd y grant Trawsnewid Cyfalaf yn ein galluogi nid yn unig i ddarparu llyfrgell fodern, groesawgar ond hefyd i gyflwyno technolegau newydd a fydd yn ymestyn yr oriau agor yn sylweddol. Rwy'n falch iawn o weld bod gwaith caled y bartneriaeth a luniwyd i ddod â'r prosiect hwn yn fyw o'r diwedd yn cael ei gydnabod a'i wobrwyo gyda'r cyllid hwn.”

Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Arberth, y Cynghorydd Marc Tierney: “Mae'r newyddion bod Llyfrgell Arberth wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gam cadarnhaol iawn ymlaen i'r dref.  Fel mudiad gwirfoddol, mae Cyfeillion Llyfrgell Arberth wedi gweithio'n galed i gefnogi Cyngor Sir Penfro i gadw llyfrgell Stryd Sant Iago ar agor ac yn rhan o'r gymuned dros y saith mlynedd diwethaf. 

“Mae'r adeilad newydd ger Maes Parcio Moor y Dref yn dod â'r llyfrgell i ganol y dref, yn hawdd ei gyrraedd mewn bysiau lleol ac mewn car ac mewn lleoliad sydd i lawer yn ddechrau eu taith i ddarganfod beth sydd gan Arberth i'w gynnig. 

“Rwy'n edrych ymlaen i Gyfeillion Llyfrgell Arberth archwilio cyfleoedd newydd i gydweithio ag eraill fel bod y llyfrgell yn dod yn ganolbwynt newydd ac yn ased cymunedol go iawn sy'n cadarnhau Arberth fel lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef yn Sir Benfro.”  

Dywedodd Maer Arberth, y Cynghorydd Elizabeth Rogers: “Mae’n hen bryd! Bydd o fudd enfawr i’r dref a’r cyffiniau i gael llyfrgell fodern newydd ar faes parcio sy’n rhoi hygyrchedd hawdd. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r dref wedi ymgyrchu drosto ers amser maith a chaled ac mae’n wych ei fod bellach o fewn ein cyrraedd. Mae’r oriau niferus a roddwyd gan lawer y tu ôl i’r llenni yn rhyfeddol, ond dyna mae Arberth yn ei wneud. Rwy’n diolch i bawb a fu’n cymryd rhan.”

Nodiadau i olygyddion

Nodyn i Olygyddion

Mae Llyfrgell Arberth wedi'i lleoli yn yr hen Gapel yn Heol Sant Iago ers yr 1980au. Sefydlwyd Cyfeillion Llyfrgell Arberth (FONL) yn 2016 i ddarparu a rheoli gwirfoddolwyr i helpu i ddarparu'r gwasanaeth llyfrgell ac ar yr un pryd, prydlesodd CSP yr adeilad hefyd i Gyngor Tref Arberth.

Yn dilyn hynny, cymeradwyodd Cabinet Sir Benfro y penderfyniad i waredu hen safle ysgol gynradd Arberth ar y Moor i adlewyrchu'r angen am gyfleusterau cymunedol (a nodwyd o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd) fel rhan o'r datblygiad newydd defnydd cymysg. Cytunodd Cyngor Tref Arberth i reoli adeilad y llyfrgell newydd gyda gwasanaeth Llyfrgell CSP a Chyfeillion Llyfrgell Arberth yn darparu'r gwasanaeth.

Mae datblygwyr hen safle ysgol gynradd Arberth, Andrew Rees a Charles Salmon, ill dau yn gyn-ddisgyblion yr ysgol, yn darparu 'adeilad newydd' y llyfrgell. Unwaith y bydd y llyfrgell wedi adleoli i'r Moor, bydd yr hen adeilad yn Heol Sant Iago yn gwarged i ofynion y Cyngor Sir a bydd yn cael ei werthu ar y farchnad agored. Mae'r gwasanaeth Llyfrgell yn ddiolchgar i Ganolfan Bloomfield a chydweithwyr gofal cymdeithasol CSP am alluogi rhedeg llyfrgell dros dro yng Nghanolfan Ddydd Lee Davies o ganol mis Mawrth ymlaen.