
Llwyddiant Gŵyl Castell i'r Cei yn creu cysylltiadau â gorffennol, presennol a dyfodol Hwlffordd
Castle to Quayside Festival success provides links to past, present and future of Haverfordwest
Daeth dros 1000 o bobl i Ŵyl Castell i’r Cei yn Hwlffordd ddydd Sadwrn 6 Medi, gan ddathlu treftadaeth ddiddorol y Dref Sirol.
Y gobaith yw y bydd y digwyddiad, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn lasprint ar gyfer rhagor o ddigwyddiadau sydd ar y gweill fel rhan o gam nesaf prosiect ailddatblygu Castell Hwlffordd.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Sir Penfro mewn partneriaeth â Gŵyl yr Afon, Ymddiriedolaeth Treftadaeth Hwlffordd, Fforwm Gweithredu Hwlffordd a Haverhub.
Roedd y rhaglen brysur yn dathlu hanes cyfoethog y dref a glan yr afon sydd wrth ei chalon. Gwnaeth cyllid gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a Chyngor Tref Hwlffordd y digwyddiad yn bosibl hefyd.
Daeth Sgwâr y Castell a Glan y Cei yn fyw gyda gweithgareddau celfyddydol a threftadaeth i bobl hen ac ifanc fel ei gilydd. Gwnaeth cerddoriaeth fyw, theatr awyr agored a dawnsio Morris swyno'r dorf, ac roedd hyd yn oed y Frenhines Eleanor o Castile yn bresennol.
Daeth torfeydd i sgyrsiau ar ecoleg a chynaliadwyedd er enghraifft Prosiect Cleddau a Chod Morol Fforwm Arfordirol Sir Benfro yn ogystal â thaith dywys hanesyddol Mark Muller a sgwrs Simon Hancock ar hanes y Castell. Roedd y Castell ar agor i gael cipolwg ar y gwaith sydd ar y gweill ac agorodd Neuadd y Sir ei drysau am gyfle prin i weld hen Ystafell y Llys.
Gobeithir y bydd rhagor o ddigwyddiadau o'r math hwn yn y dyfodol fel rhan o’r gwaith sylweddol i weddnewid Castell Hwlffordd, pan fydd yr atyniad darganfod treftadaeth newydd, sy'n adrodd gorffennol, presennol a dyfodol Sir Benfro yn agor ei ddrysau yn 2028.
Dywedodd Siobhan McGovern, Rheolwr Prosiect Cleient prosiect datblygu'r Castell ac un o drefnwyr Gŵyl Castell i’r Cei: "Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn yr ŵyl – prawf ein bod yn dwlu ar ein treftadaeth.
"Y bwriad yw ailagor y Castell ar ddechrau 2028, ac rydym yn gweithio'n galed i'w wneud yn rhywbeth y gall y gymuned gyfan fod yn falch ohono. Yn y cyfamser, bydd yna lawer o gyfleoedd i gymryd rhan ar hyd y ffordd."
Bydd prosiect ailddatblygu Castell Hwlffordd yn creu atyniad blaenllaw i Sir Benfro.
Gyda'r nod o ddenu dros 40,000 o ymwelwyr y flwyddyn, mae'r prosiect hwn yn rhan o waith adfywio Hwlffordd drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr i'r dref sydd o fudd i fusnesau lleol yn ogystal â chreu balchder yn nhreftadaeth ein tref a'n sir.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith ailddatblygu Castell Hwlffordd, anfonwch e-bost at heartofpembs@pembrokeshire.gov.uk i ymuno â'r rhestr e-bost.
Nodiadau i olygyddion
PICTURES: Jasper Photography.