
Ceisiadau am grant twf busnes nawr ar agor
Business growth grant applications now open
Mae rownd newydd o gyllid grant busnes wedi'i lansio i hybu mentrau Sir Benfro a'u helpu i dyfu a ffynnu.
Mae grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU bellach ar agor ac yn gwahodd ceisiadau gan entrepreneuriaid a chwmnïau'r sir.
Tîm Datblygu Busnes Cyngor Sir Penfro sy’n rheoli’r gronfa sydd â’r nod o feithrin diwylliant mentrus ac entrepreneuraidd llwyddiannus o fewn yr economi leol.
Mae Grantiau Twf Busnes o £1,000 i £32,500, Grantiau Cychwyn Busnes o £500 i £10,000, a Grantiau Lleihau Carbon o £1,000 i £17,500 ar agor ar gyfer ceisiadau.
Bydd y grantiau yn gyfraniad tuag at gynllun arfaethedig busnes, gyda'r ymgeisydd yn cael cyllid cyfatebol o 50% o leiaf o gyfanswm y swm o rywle arall.
Dywedodd Peter Lord, Prif Swyddog Datblygu Tîm Cymorth Busnes: "Mae gennym ystod amrywiol o fentrau yn y sir yr ydym yn awyddus i'w cefnogi. Mae'r grantiau hyn yn cynnig hwb i helpu busnesau i dyfu ac maen nhw’n rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd.
“Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi."
Mae Grant Twf Busnes Sir Benfro yn cefnogi busnesau lleol a buddsoddwyr mewnol i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy, gan greu a diogelu swyddi a thrwy hynny wella'r economi leol.
Nod y Gronfa Cychwyn Busnes yw cefnogi creu mentrau newydd, tra bod y Gronfa Lleihau Carbon yn darparu cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy.
Bydd Grant Micro newydd yn lansio ym mis Mehefin, rhagor o fanylion i’w cyhoeddi.
Bydd grantiau ar agor ar gyfer ceisiadau tan fis Medi 2025 neu hyd nes bod y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.
I gael rhagor o wybodaeth, ac i ddarganfod mwy am gymorth busnes a gynigir gan y tîm, ewch i: Cyngor a chefnogaeth i fusnesau - Cyngor Sir Benfro