English icon English
Milford Haven train station sign

Ceisiadau am gyllid grant gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer prosiectau trafnidiaeth

Multi-million pound grant funding for transport projects sought

Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio cyllid grant gwerth £10.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gwella trafnidiaeth a theithio llesol pwysig.

Bydd y prosiectau o fudd i gymunedau lleol ledled y sir, meddai'r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Miller: "Drwy gymeradwyo'r angen i'r ceisiadau hyn gael eu cyflwyno, rydym yn dangos ein hymrwymiad i wella cymunedau ar gyfer yr holl breswylwyr, ledled Sir Benfro.”

Ymhlith ceisiadau grant y Gronfa Trafnidiaeth Leol sy'n cael eu gwneud mae Gwelliannau Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Aberdaugleddau a Doc Penfro.

Cafodd diweddariad cynllun manwl ar gynllun Aberdaugleddau ei ddarparu i'r Cabinet fis diwethaf. Yn amodol ar gadarnhad o gyfraniadau ariannol pellach gan Lywodraeth Cymru, gallai'r gwaith ddechrau ar y safle'r flwyddyn nesaf a chael ei gwblhau yn 2026.

Mae'r prosiect hwn yn alluogwr allweddol ar gyfer gwella cysylltedd rheilffyrdd ar gyfer Aberdaugleddau a Sir Benfro yn ei gyfanrwydd.

Mae hefyd yn cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru a'r DU yn ogystal â Great Western Railways i sicrhau bod gwasanaethau uniongyrchol, cyflym a rhyng-ddinesig yn dychwelyd i'r dref.

Mae'r cynllun yn cynnwys gwaith gwella i orsaf drenau bresennol Aberdaugleddau i greu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd trwy adleoli'r platfform rheilffyrdd presennol a darparu cyfnewidfa bysiau bwrpasol rhwng yr orsaf a'r ardal manwerthu, ynghyd â safle tacsi, maes parcio ffurfiol, mannau cyhoeddus a chysylltiadau Teithio Llesol gwell.

Mae cynllun Cyfnewidfa Doc Penfro ar gyfer cysylltiad trafnidiaeth gyhoeddus newydd a gweithredol o Barc Manwerthu Doc Penfro, ac yn amodol ar ddyfarnu grant, byddai gwaith yn canolbwyntio ar ddylunio cysylltedd i'r gyfnewidfa o Ffordd Llundain, a gosodiad Signalau Traffig.

Mae'r Gronfa Teithio Llesol yn gyfle i geisio cyllid ar gyfer cwblhau cynlluniau yn Saundersfoot, yn Heol Stammers a Heol Francis.

Bydd cais y Gronfa Ffyrdd Gydnerth yn cwmpasu cais am Addasiad Arfordirol Niwgwl a Dargyfeirio'r A487. Darparwyd diweddariad i gyfarfod y Cabinet ar 9 Medi.

Bu ymgysylltu ac ymgynghori helaeth ar y cynllun hwn, ac mae'r ateb a argymhellir yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth sylweddol sydd yn llyfrgell gwefan y prosiect. Mae rhywfaint o drafod o hyd ynghylch cynnig y cynllun gan rai aelodau o'r gymuned, ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wrando ar bob barn, ac egluro ei safbwynt ar addasu i'r heriau a gyflwynir gan newid yn yr hinsawdd yn y lleoliad hwn.

Mae disgwyl i Gais Cynllunio wedi ei baratoi, gan gynnwys yr Ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol, yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon, a fydd eto'n caniatáu craffu agored a thryloyw ar gynigion.

Mae cynigion y Cyngor yn ymwneud ag addasu i fynd i'r afael â maint problem newid hinsawdd.

Yn y cyfamser, mae darpariaeth y sir o bwyntiau gwefru trydan yn ceisio cael hwb ychwanegol gyda chais am grant i ehangu'r rhwydwaith a’r seilwaith cysylltiedig ymhellach.

Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Trigolion: "Bydd y cynigion hyn, os cânt eu cymeradwyo, yn dod â gwelliannau i deithio ar gyfer pob agwedd ar gludiant yn Sir Benfro. Bydd gyrwyr, cymudwyr, beicwyr, cerddwyr ac eraill i gyd yn elwa.”