English icon English
girl on bike, family at bus stop

Ceisio adborth am weledigaeth trafnidiaeth ranbarthol

Feedback wanted on regional transport vision

Rydym am gael eich barn ynghylch dyfodol trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru.

Mae achos dros newid a ddatblygwyd ar gyfer cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a fydd yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe bellach ar agor ar gyfer adborth gan y cyhoedd tan 26 Awst.

Mae'r achos dros newid yn dangos sut mae'r cynllun yn hanfodol i gefnogi datblygiad economaidd parhaus yn y rhanbarth, wrth gydnabod ei gymunedau amrywiol a'i anghenion trafnidiaeth amrywiol.

Mae nodau'r cynllun yn cynnwys gwella llwybrau cerdded a beicio i wasanaethau lleol, yn ogystal â symud oddi wrth ddefnyddio ceir preifat i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Bydd fforddadwyedd wrth wraidd y cynllun i sicrhau bod mynediad at drafnidiaeth ar gael i bawb.

Bydd sylwadau am yr achos ar gyfer newid yn helpu i lywio cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft yr ymgynghorir arno hefyd pan fydd yn barod ar gyfer adborth.

Bydd cynlluniau Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru ar gyfer rhwydwaith bysus a threnau integredig yn parhau i gael eu datblygu ochr yn ochr â chyflwyno’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn y dyfodol.

Disgwylir i'r elfennau rheilffordd a metro ychwanegu dros filiwn o deithiau at y rhwydwaith rheilffyrdd, gan helpu i annog mwy o bobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na cheir yn fwy nag unrhyw gynllun arall yng Nghymru.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) De-orllewin Cymru, "Gan ychwanegu at gynnig twristiaeth ragorol, mae De-orllewin Cymru'n profi cyfnod o fuddsoddiad digynsail, diolch i ddatblygiadau fel y Porthladd Rhydd Celtaidd a Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.

"Bydd y cynlluniau hyn - ar y cyd â nifer o rai eraill - yn helpu i greu miloedd o swyddi i bobl leol ac yn denu hyd yn oed rhagor o fuddsoddiad i Dde-orllewin Cymru yn y dyfodol, ond rydym hefyd wedi nodi bod angen gwelliannau sylweddol i’n rhwydwaith trafnidiaeth presennol er mwyn iddo ddatblygu ar yr un cyflymder â'r datblygiadau hyn, wrth hefyd ddiwallu anghenion pobl leol yn well yn holl gymunedau'r rhanbarth - rhai dinesig a gwledig.

"Bwriedir i'r achos ar gyfer newid - sydd hefyd yn amlygu pwysigrwydd fforddadwyedd, ystyriaethau newid hinsawdd a thrafnidiaeth carbon isel - weithredu fel arweiniad i helpu i lywio'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg.”

Meddai'r Cyng. Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadeirydd is-grŵp trafnidiaeth y CBC,  "Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth wrth wraidd ein rhanbarth. Mae'n ein cysylltu â gwaith, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau hamdden a cymdeithasol ar draws de-orllewin Cymru a thu hwnt.

"Mae'n effeithio ar bawb, a dyna pam rydym yn agor ein hachos dros newid ar gyfer y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol i dderbyn adborth gan y cyhoedd.”

"Gan ein bod yn disgwyl i boblogaeth y rhanbarth dyfu dros y degawdau nesaf, mae angen system drafnidiaeth arnom sy'n cymhwyso datblygiadau presennol a'r dyfodol mewn ffordd sy'n cefnogi dewisiadau teithio cynaliadwy, gweithgarwch economaidd a chynhwysiant cymdeithasol ar draws y rhanbarth."

Ewch i www.cjcsouthwest.wales/ymgynghoriad am ragor o wybodaeth a'r cyfle i roi adborth.

E-bostiwch regional.transport@abertawe.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae copïau papur o’r ffurflen adborth a'r deunyddiau ymgynghori ar gael yn:

  • Abertawe: Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth.
  • Castell-nedd Port Talbot: Canolfan Ddinesig Castell-nedd; Canolfan Ddinesig Port Talbot;  Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan.
  • Sir Benfro: Neuadd y Sir, Hwlffordd.
  • Sir Gaerfyrddin: Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman, Stryd y Cei;
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin, Rhodfa Santes Catrin;
  •  Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli, Stryd Stepney.