Delwedd cartŵn gyda dyn a menyw ffôn blwch tic pensil

Ceisio barn ar argymhellion Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru

Views wanted on the West Wales Learning Disability Strategy recommendations

Rhannu:

Mae ymgynghoriad wedi’i lansio i geisio barn pobl ar Strategaeth Anabledd Dysgu arfaethedig Gorllewin Cymru 2026 – 2031.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Cynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu.

Ar hyn o bryd, mae tair strategaeth anabledd dysgu debyg iawn i’w gilydd yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Un strategaeth ranbarthol unigol fydd y strategaeth gyfredol hon a fydd yn cwmpasu pob ardal, ond bydd gan bob ardal awdurdod lleol ei chynllun gweithredu ei hun. 

Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol sydd yn grŵp tair sir ac yn cynnwys pobl o’r sefydliadau canlynol:  

  • Cyngor Sir Caerfyrddin,  
  • Cyngor Sir Ceredigion,  
  • Cyngor Sir Penfro,  
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda,  
  • Tîm Perffaith, 
  • Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, 
  • Pobl yn Gyntaf Sir Benfro, 
  • Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, 
  • Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.   

Mae’r strategaeth wedi’i llywio gan yr asesiad o anghenion y boblogaeth a gyhoeddwyd gan Fwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru. 

Mae’n cwmpasu deg maes allweddol y mae pobl ag anabledd dysgu a phobl niwrowahanol wedi’u nodi fel blaenoriaethau, gan gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, addysg, plant a phobl ifanc, tai, trafnidiaeth, cymdeithasu a chyfeillgarwch, cyfleoedd dydd, gwirfoddoli a gwaith eiriolaeth a chymorth i ofalwyr. 

Hoffai Cyngor Sir Penfro glywed eich barn am yr argymhellion sydd wedi dod i’r amlwg o’r ymgysylltu. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a thudalen Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru.

Gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd) erbyn 5 Gorffennaf 2026.

Os hoffech gopi papur, cysylltwch â: getinvolved@pembrokeshire.gov.uk / 01437 764551.