Ceisio sylwadau ar ymrwymiad parhaus i gydraddoldeb yng Nghyngor Sir Penfro
Views on continued commitment to equality at Pembrokeshire County Council sought
Gofynnir i aelodau'r cyhoedd roi eu barn ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol am y pedair blynedd nesaf.
Mae'r cynllun drafft ar gyfer 2024-2028 yn disgrifio sut mae Cyngor Sir Penfro yn anelu at barhau â'i ymrwymiad i gydraddoldeb a sut y bydd yr Awdurdod yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n nodi sut y byddant yn sicrhau bod gwasanaethau maen nhw’n eu darparu yn hygyrch i bob preswylydd a defnyddiwr gwasanaeth waeth beth fo'u hoedran, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd.
Datblygwyd y cynllun yn dilyn ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhaliwyd ar y cyd â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled De-orllewin Cymru yn ystod 2023 ac a ategir gan adolygiad helaeth o ddogfennau ymchwil a pholisi cysylltiedig.
Cyn cyflwyno'r cynllun terfynol i'r Cabinet ym mis Mawrth, gofynnir i drigolion weld a ydynt yn cytuno â'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer camau gweithredu a nodwyd a gwneud unrhyw sylwadau ar y strategaeth ddrafft.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi gweld llawer iawn o waith da yn cael ei gwblhau i sicrhau bod y llu o wasanaethau hanfodol a ddarperir i grwpiau ac unigolion bregus wedi arwain at wella canlyniadau i bawb.
"Fel sefydliad, mae hyn wrth wraidd yr hyn rydym ni’n ei wneud ac rydym ni’n cydnabod bod mwy i'w wneud bob amser. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn am y camau blaenoriaeth a'r strategaeth ddrafft ehangach."
Gallwch ddysgu mwy am y cynllun a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar dudalen Dweud Eich Dweud y Cyngor. Neu gallwch ffonio a gofyn am gopi papur ar 01437 764551 neu lawrlwytho ffurflen ymateb copi caled.
Dylech gwblhau a chyflwyno eich arolwg erbyn dydd Sul, 11 Chwefror.