Cerddoriaeth yn y Faenor yn taro’r nodau cywir!
Music at the Manor hits all the right notes!
Gwnaeth llawer o bobl fwynhau noswaith fendigedig o gerddoriaeth jazz, glasurol, roc a sgôr ffilm ar dir hyfryd Maenor Scolton yr wythnos diwethaf yn ‘Cerddoriaeth yn y Faenor’.
Wedi’i gyflwyno gan Wasanaeth Cerdd Sir Benfro, rhoddodd y dathliad cerddorol gyfle i bobl ifanc o bob rhan o’r sir berfformio i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach mewn awyrgylch hamddenol. I lawer o'r cerddorion ifanc, dyma oedd eu cyngerdd cyhoeddus cyntaf.
Cafwyd perfformiadau rhagorol gan Fand Pres y Sir, Cerddorfa Hyfforddi (yn cynnwys y grŵp Second Steps), Band Cyngerdd, bandiau Roc a Phop, Llinynnau Roc, a’r Band Chwyth Symffonig. Cafwyd perfformiadau gwych hefyd gan Gôr Cymunedol Sir Benfro a Cherddorfa Siambr Cleddau.
Dywedodd un o’r rhieni yn y digwyddiad: “Roedd y safon yn eithriadol a chafodd bawb noson fendigedig. Da iawn bawb! Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran ac i Wasanaeth Cerdd Sir Benfro, rydym mor ffodus i'ch cael chi!”
Roedd y noson yn cynnwys perfformiad cyntaf o gyfansoddiad ‘Something to do with hills and rivers’ gan Sam Gardner-Williams sy’n ddisgybl yn y sir. Ac yntau’n ddisgybl yn Ysgol Bro Preseli, bydd Sam yn astudio cyfansoddi yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym mis Medi.
Dywedodd Philippa Roberts, pennaeth y Gwasanaeth Cerdd: “Diolch yn fawr oddi wrth dîm Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro i bawb a gyfrannodd at wneud Cerddoriaeth yn y Faenor yn ddigwyddiad cymunedol bendigedig. Gan weithio mewn partneriaeth â Valero, Cyfeillion Cerddorion Ifanc Sir Benfro a Maenor Scolton, rwy’n ddiolchgar i bawb a helpodd ac a gefnogodd y perfformwyr i ddarparu noson arbennig o gerddoriaeth fyw.”
Diolchodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, i dîm Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro am y noson wych o adloniant. “Roedd yn gyngerdd hyfryd ac mor braf oedd ei weld yn llawn pobl leol yn cael hwyl,” meddai. “Rhaid canmol y cyfranogwyr gwych, p’un a oedden nhw’n chwarae offeryn neu'n canu caneuon, roeddent yn wych.”
Llongyfarchodd Vivienne Ward o Gymdeithas Gerdd Casnewydd yr holl berfformwyr, gan ddweud: “Am gerddorion ifanc trawiadol sydd yn Sir Benfro ac am amrywiaeth hyfryd o wahanol fandiau/cerddorfeydd sydd ar gael i’r bobl ifanc ddewis ohonynt; maent yn ffodus iawn.”
Dywedodd Patricia Mawuli Porter OBE, a aeth i’r digwyddiad gyda’i theulu, fod y digwyddiad yn ‘enghraifft wych o gymuned, cerddoriaeth, teulu, gofal ac yn ‘rhan anhygoel o’r byd rydym yn byw ynddo’. “Roedd yr ystod eang o oedrannau, arddulliau a lefelau o gerddoriaeth yn fendigedig – ac roedd cynnwys cwpl o fandiau ieuenctid, yn perfformio caneuon fel ‘Teenage dirtbag’ yn cyferbynnu â’r sgorau thema ffilm a chlasurol i roi dyfnder o liw, gwead a gwerthfawrogiad cerddorol,” meddai. “Ni allwn ond cymeradwyo tîm Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro am gynnal y digwyddiad cymunedol mwyaf anhygoel, ac edrychwn ymlaen yn fawr at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf!”
Llun: Mwynhaodd cannoedd o bobl y dathliad cerddorol ym Maenor Scolton.